Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

LLID YR IAU FIRWS A i E Dr Elwyn Elias Mae yna o leiaf bump o firwsau sydd yn achosi llid yr iau fel eu prif salwch. Yn ogystal gall llawer firws arall megis firws Epstein-Barr a cytomegalofirws effeithio i wahanol raddau ar yr iau, ond anaml yw llid yr iau sydd yn ddigon cas i achosi'r clefyd melyn gyda rhain. Yn yr erthygl hon soniwn yn unig am firws hepatitis A i E. Llid yr Iau Firws A Hwn sydd fwyaf cyffredin yng Nghymru. Plant ysgol sydd yn cael eu heintio fel arfer, a bydd yn achosi epidemigau mawrion mewn gwledydd lle nad yw'r cyfleusterau yn addas i lendid corfforol. Wrth fod safonau toiledau ac ati wedi gwella mae llai o blant ar gyfartaledd yn dioddef o lid yr iau. Serch fod hynny'n beth da ynddo ei hun, mae'r clefyd yn aml yn fwy difrifol mewn oedolion. Mae gostyngiad ym mynychder y clefyd mewn plant yn cynyddu'r perygl iddynt ddioddef epidemigau ohono wedi iddynt ddod yn oedolion. Mae'r Firws A yn cael ei ysgarthu yn yr ymgarthion, yn bennaf cyn fod salwch yn ymosod, a bydd y firws bron bob amser wedi diflannu o'r ymgarthion o fewn wythnos o ddechrau'r clefyd melyn. I brofi Firws A fel achos llid yr iau, rhaid felly ddangos gwrthgorffyn IgM at y firws yng ngwaed y claf yn hytrach na chwilio am y firws ei hun. Bydd gwrthgorffyn IgM yn parhau am tua tri mis yn unig, ac yna bydd gwrthgorffyn IgG yn rhoi heintryddid parhaol. Mae brechlyn effeithiol ar gael, a dylid brechu unrhyw un sydd yn bwriadu teithio i'r Trydydd Byd, yn enwedig rhai ieuainc am ei bod yn fwy tebyg nad oes ganddynt heintryddid naturiol. Llid yr Iau Firws B Trosglwyddir Firws B drwy drallwyso gwaed, yn enwedig pan fo elfennau'r trallwysiad yn deillio o nifer fawr o unigolion. Mae hefyd yn cael ei drosglwyddo drwy gyfathrach rywiol, yn arbennig ymysg dynion cyfunrywiol. Mae caethyddion i gyffuriau yn ei drosglwyddo drwy rannu nodwyddau, ac erbyn hyn mae'n orfodol i feddygon sydd yn dioddef o Firws B atal rhag unrhyw weithred sydd yn cynnwys perygl o drosglwyddo'r firws i'w cleifion, e.e. llawfeddygaeth gymleth. Mae mwy na 200,000,000 ledled y byd yn dioddef o lid yr iau Firws B. Rhyw 1 o bob 1000 o'r boblogaeth sy'n cario'r firws yn ein gwlad ni, ond yn y Dwyrain Pell ac Affrica fe all fod o 10% i 15% o'r bobl yn ymateb yn bositif. Yn China