Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

O HANES MEDDYGAETH O WRECSAM I RHEIMS YN 1847 Dr Buddug Owen Wedi i Ether gael ei ddefnyddio yn llwyddiannus yn Llundain ar 19eg o Ragfyr, 1846 gan Dr Boott a Mr Robinson, cafodd ei ddefnyddio gyntaf yng Nghymru i lawfeddygaeth fawr yn Wrecsam gan Mr Dickinson ar y 5ed o Chwefror, 1847. Gan fod papurau newydd o'r cyfnod yn cynnwys eitemau o ddiddordeb am anestheteg penderfynais wneud ymchwil ar un ohonynt a oedd yn cael ei gyhoeddi'n wythnosol yng Ngogledd Cymru, sef "The Caernarvon & Denbigh Herald" i weld beth a gyhoeddwyd ganddynt ar y pwnc yn 1847. Fel y soniais mae'r eitem gyntaf yn cyfeirio at y lawfeddygaeth yn Wrecsam, ac fe'i gwelir yng nghyhoeddiad Chwefror 13eg. Mae'n disgrifio trychiad coes trwy'r glun mewn dyn ifanc a oedd wedi cyfogi sawl gwaith tra'r oedd yn cael ei roi i gysgu. Aeth yr adroddiad rhagddo: "Cafodd ceg yr offeryn ei aildrefnu, a mewnanadlwyd mwy o Ether, ac aeth y dyn o dan ei effaith mewn llai na phum munud. Ar ôl y lawfeddygaeth, dywedodd nad oedd yn ymwybodol o boen er ei fod yn gwybod beth oedd yn digwydd. Roedd yr effaith yn foddhaol i bawb oedd yn bresennol, yn cynnwys y claf." Mae'r eitem hon yn ddiddorol am ei bod yn dangos fod offeryn wedi cael ei ddefnyddio i roi Ether o fewn chwech i saith wythnos iddo gael ei ddefnyddio yn Llundain am y tro cyntaf. Hefyd, mae'n dangos dau anhawster o gael anestheteg, cyfogi a bod yn ymwybodol. Mae'r ail eitem o ddiddordeb o Lanidloes ar y 27ain o Chwefror, eto trychiad coes hogyn 7 i 8 oed a oedd wedi ei faglu mewn peiriant. Roedd yr hogyn hwn hefyd yn ymwybodol ond yn ddi-boen. Ar yr 20fed o Fawrth, dan bennawd Dinbych adroddwyd fod Dr Pierce o'r dref honno wedi gwneud llawfeddygaeth tra'r oedd ei gleifion dan anestheteg. Roedd wedi dechrau drwy wneud triniaeth syml, ac wedi gweld fod hyn yn llwyddiannus aeth ymlaen i wneud llawfeddygaeth fwy cymhleth a phoenus. Yr achos diwethaf iddo ei drin oedd torgest wedi tagu, a chafodd bleser o'r llwyddiant. Yn yr achos hwn hefyd roedd y claf yn ymwybodol. Roedd pawb oedd wedi derbyn y driniaeth newydd efo Ether yn dweud ei bod yn ddi-boen ac ei bod wedi cael breuddwydion hapus. Felly, gellir cyfri llawfeddygaeth dan Ether yn ffynhonnell pleser byr amser. Ar 27ain o Fawrth cafwyd disgrifiad marwolaeth merch o'r enw Parkinson o Spittlegate, Lincoln. Ei dymuniad hi oedd cael anadlu Ether. Roedd ganddi dyfiant ar ei choes ers peth amser, ac fe'i torrwyd ymaith pan oedd hi'n ymwybodol. Roedd y lawfeddygaeth yn llwyddiannus, ond datblygodd