Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

CANSER Y CROEN Dr D. Huw Jones Rhoddwyd llawer o amlygrwydd i ganser y croen ym Mhrydain yn ystod y degawd diwethaf, yn enwedig gan y cyfryngau, am fod mynychder canser y croen yn dal i gynyddu'n gyson. Yn 1987 fe gofrestrwyd tua 28,000 o gleifion newydd yn dioddef o'r canser hwn. Y mae tua 1,300 o bobl yn marw bob blwyddyn o'r clwyf er fod canradd uchaf y marwolaethau yn perthyn i melanoma yn hytrach nag i'r canser cyffredin. (Ffigwr 2) Y mae'r broblem hefyd lawer yn waeth mewn rhai gwledydd, fel Awstralia a Seland Newydd. Y mae'r ffigyrau yn dangos cynnydd y mynychder rhwng 1980 a 1987 (Ffigwr 1), ac mae'r un patrwm yn aros pan gyweirir y graffiau o ran oed safonedig. Ar ddechrau 1993 cyhoeddwyd y ddogfen Iechyd y Genedl gan y Llywodraeth. Yn y rhan sy'n delio â chanser, caiff canser y croen sylw arbennig, ac amcan y Llywodraeth yw 'Rhoi terfyn ar y cynnydd ym mynychder canser y croen erbyn y flwyddyn 2005'. Bwriedir cyflawni hyn fel â ganlyn: Gwneud mwy o bobl a allent fod mewn perygl o ddatblygu canser y croen fod yn barod i gydnabod hynny, Gochelyd rhag dinoethi eu crwyn yn ormodol i'r haul, Newid agwedd pobl tuag at dorheulo, ac y mae'r neges arall yr un mor glir, sef bod 'Rhwystro yr un mor bwysig â thrin'. Y mae canser y croen a rhai o'i wahanol fathau wedi eu disgrifio ers blynyddoedd ers blynyddoedd yn y lenyddiaeth feddygol: 1775: Percival Pott: Canser y Gell Gennog (Squamous Cell Carcinoma.) 1827: Jacob: Canser y Gell Waelodol (Basal Cell Carcinoma.) 1812: Laennec: Y Tyfiant Du (Melanoma.) Y mae achosion canser y croen yn niferus, ond dyma'r rhai pwysicaf: Etifeddeg: math a lliw y croen Yr Haul: Pelydrau Uwchfioled B (320-290nm) Pelydrau Uwchfioled A (400-320nm) Y Fantell Osôn Pelydrau X: Pelydrau Triniaethol/Radiotherapi Trin y Wen Trin Clefydau Anfalaen y croen Trin Tarwden y Pen Firws: HIV (Kaposi) Cemegau a Chyffuriau: Tar, Arsenig, Psoralen.