Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

HW ACAIDS Y SEFYLLFA YNG NGHYMRU Dr Olwen E. Williams Hanes yr Epidemig Adroddiad o newmonia newmocystis carinii mewn pum dyn ifanc hoyw yn Los Angeles, UDA ar ddiwedd 1981 oedd man cychwyn yr epidemig AIDS. Tua'r un amser, sylwyd ar sarcoma kaposi mewn dynion ifanc hoyw yn ninas Efrog Newydd roedd gan bedwar ohonynt newmonia newmocystis carinii hefyd. Nid oedd gan yr un o'r unigolion hyn achos amlwg i egluro eu darwthiad imwnyddol difrifol. Yn 1983, cydnabyddwyd mai'r asiant Firws Diffyg Imwnyddol Dynol (HIV) oedd achos y darwthiad imwnyddol, a'i fod yn cael ei drosglwyddo drwy gyfathrach rywiol, gwaed wedi ei heintio, ac o fam i faban. Ym mis Ionawr 1983, daeth adroddiad o'r achos cyntaf o AIDS yn y Deyrnas Unedig a phum mis yn ddiweddarach, daeth adroddiad o Gaerdydd am yr achos cyntaf yng Nghymru, mewn dyn a oedd yn butain gwrywaidd yn Llundain a chanddo nifer fawr o bartneriaid. Erbyn 1984, roedd prawf masnachol HIV ar gael. O PHLS Abertawe yn Nhachwedd 1984 y daeth y prawf positif cyntaf yng Nghymru, dyn deurywiol a oedd wedi teithio dramor. Erbyn canol 1994, roedd Mudiad Iechyd y Byd (MIB) yn amcangyfrif bod dros dri miliwn o achosion o AIDS yn y byd i gyd, gyda 67% yn yr Affrig. Yn ogystal, maen nhw'n amcangyfrif bod rhwng 13 a 14 miliwn o oedolion wedi eu heintio â'r firws yn y byd. Erbyn Haf 1994, yr oedd 22,101 o unigolion â HIV yn y DU, gyda 9,436 ohonynt yn dioddef o AIDS. Mae 68% (6,388) o'r rhai ag AIDS wedi marw. Gwelir bod 61 o'r shai sydd wedi eu heintio yn ddynion hoyw, 16% yn ferched a dynion anghyfunrywiol, 12% wedi eu heintio drwy gyffuriau a 6% drwy waed wedi ei heintio. Ystadegau HIV ac AIDS Cymru Yng Nghymru rhwng 1984 a Gorffennaf 1994, roedd adran Gwasanaeth Labordy Iechyd Cyhoeddus, Caerdydd, Adran Cymru o'r 'Communicable Disease Surveillance Centre' (CDSC) wedi derbyn 362 o adroddiadau profion HIV positif o labordai profi yng Nghymru (Tabl 1). Mae'r Adran yn cyhoeddi'r ystadegau yn chwarterol. Maen nhw'n cynnwys nifer y profion a gynhelir, nifer y profion positif a'r categorïau amlygu. Mae adroddiadau AIDS yn dibynnu ar feddygon â chyfrifoldeb am gleifion HIV i ddatgelu mewn modd cyfrinachol a gwirfoddol i'r CDSC, pan fydd claf wedi datblygu AIDS, neu wedi marw o'r salwch.