Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

ATAL LLEDAENU HW YNG NGHYMRU: HER HYBU IECHYD Mr John Sam Jones Cyflwyniad Gall y Firws Diffyg Imiwnedd Dynol HIV fod ynghwsg yn y corff dynol heb unrhyw symptom amlwg am nifer o flynyddoedd ac mae'n bosibl na fydd y rhai sy'n cario'r haint yn ymwybodol o'u statws HIV. Felly, mae lledaeniad yr haint HIV yng Nghymru yn dawel a chudd. Dau brif lwybr trosglwyddo HIV yw cyfathrach rywiol heb unrhyw amddiffyn a chyswllt uniongyrchol gwaed i waed pan fydd defnyddwyr chwistrellwyr cyffuriau yn rhannu offer. Mentrau hybu iechyd wedi eu hanelu at atal lledaeniad HIV yw'r unig offer effeithiol sydd ar gael mewn cymdeithas, i wrthsefyll y clefyd heintus hyd yn oed ddeng mlynedd ar ôl dechrau'r cyffro HIV cyffredinol heb unrhyw frechiad na thriniaeth feddygol effeithiol ar gyfer yr haint HIV. Egwyddorion Hybu Iechyd Atal HIV Mae Mudiad Iechyd y Byd yn diffinio hybu iechyd fel: ` y broses o alluogi pobl i gynyddu rheolaeth dros, ac i wella, eu hiechyd.' Yng nghyd-destun atal lledaeniad HIV yng Nghymru mae'n rhaid i'r broses hybu iechyd gyd-weithio â phobl mewn cymdeithas i wneud dewisiadau ymddygiad a fydd yn cyfyngu'n uniongyrchol ledaeniad HIV; h.y. bod unigolion yn gwneud dewisiadau a newidiadau ymddygiad deallus yn y fath fodd fel na fydd pobl ddi-heintiedig yn cael eu heffeithio na'r haint HIV yn cael ei drosglwyddo i bobl heintiedig. Credaf bod yn rhaid i waith hybu iechyd yn y cymunedau yng Nghymru gael ei arwain gan yr egwyddorion canlynol — ni all yr un sefyll ar ei ben ei hun: Bydd y wybodaeth a gyflwynir yn gywir ac yn ddi-ragfarn, yn sensitif yn ddiwylliannol a chymdeithasol ac yn cael ei gyflwyno mewn ffordd sy'n canolbwyntio ar y cwsmer; Bydd llunio penderfyniadau personol cyfrifol wedi'i seilio ar yr egwyddor o ddewis deallus yn cael ei annog bob amser; Hybu perthynas rywiol mwy diogel a mwy boddhaol; Targedu ymyrraethau a gweithgareddau at grwpiau cwsmeriaid penodol lle mae'n bosibl y bydd eu hymddygiad yn eu rhoi mewn perygl o gael neu o drosglwyddo HIV; Bydd egwyddorion lleihau/minimeiddio niwed yn rheoli'r gwaith;