Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Darlith yr Eisteddfod Genedlaethol, Castell Nedd, 1994 AFIECHYD A MEDDYGAETH DRWY LYGAD Y BARDD A'R LLENOR Dr Edward Davies Ychydig a wyddom am sut y daeth iaith i fodolaeth, efallai iddi gychwyn yn ebychiadau y dyn-epa i rybuddio ei gymar fod perygl gyfagos. Gallwn ddyfalu iddi fod yn hanfodol i gyfathreb pan ddaeth dynion i gydfyw mewn grwpiau. Ar y dechrau cyfrwng i gyfleu ffeithiau ydoedd ac nid i gyfleu syniadau. Yn wir, ymwneud ag achos cyfreithiol parthed perchenogaeth tir a wna'r darn hynaf o lenyddiaeth Cymraeg ysgrifenedig sydd ar gael, a hwnnw uwchben copi Lladin o Efengyl Mathew mewn llawysgrif o'r 8fed ganrif. Gyda datblygiad diwylliant daeth yr angen am gofnodi syniadau, a'r rhaniad rhwng cofnod ffeithiol a llenyddiaeth. Mae'r Athro Gwyn Thomas yn dyfynnu o'r Rhodd Mam yr ateb i'r cwestiwn "Beth yw ysgrif?". "Ysgrif yw darn o ryddiaith sydd wedi'i glymu yn ei gilydd gan bersonoliaeth ei awdur. Fe all yr awdur draethu ei brofiadau a'i feddyliau ei hun neu fe all drafod ffeithiau, ond mewn ysgrif nid yw'r awdur yn anelu at wrthrychedd". Dywed Dr John Gwilym Jones mai "iaith i gyfleu teimlad yw iaith y llenor, nid iaith i gyflwyno ffeithiau". Dyma efallai yw craidd y gwahaniaeth rhwng gwerslyfr gwyddonol neu archeb am nwyddau a nofel neu awdl. Gweledigaeth neu brofiad personol y llenor sy'n bur wahanol i'r cyffredin yw nodwedd cerdd neu ysgrif lenyddol. Beth amser yn ôl, wrth baratoi ychydig o hanes iechyd yn Uwchaled yn y ganrif ddiwethaf bum yn edrych drwy Cofrestri'r Plwyfi, ac fe ddarganfum fod hanner y marwolaethau wedi digwydd i bobl cyn iddynt gyrraedd eu deugain e.e. CERRIGYDRUDION, 1852-1880, 44.1%; LLANGWM 1813-1840, 56.7%; PENTREFOELAS 1814-1840, 63.7%. Dyna'r ffeithiau ond mae hen bennill telyn yn eu dweud lawer mwy effeithiol: Mae cyn amlad yn y farchnad Groen yr oen a chroen y ddafad A chyn amlad yn y Llan Gladdu merch a chalddu'r fam. Mae pob un ohonom wedi profi adwaith i sefyllfa o afiechyd mewn nofelau. Gwn i mi ymateb yn emosiynol i ddisgrifiad Harri Pritchard Jones o farwolaeth Jonathan, y plentyn methedig, i ddarlun Caradog Pritchard o wallgofrwydd mam drwy lygad diniwed plentyn, ac i bortread o agwedd yr ifanc at gyflwr diraddiol henaint ym mherson Bigw gan Angharad Tomos. Mae'r llenorion a'r beirdd, y bobl hynny sydd yn gweld pethau o agwedd