Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

PERLAU I'W TRYSORI Dr D. Eurig Davies Wrth feddwl am y teitl sydd i'r papur hwn, mae dau destun yn cynnig eu hunain, y ddau o'r Efengyl yn ôl Mathew. Yn y seithfed bennod fe geir "Peidiwch a thaflu eich perlau o flaen y moch" ac yn y drydedd bennod ar ddeg mae "Wedi iddo ddarganfod un perl gwerthfawr aeth i ffwrdd a gwerthu popeth oedd ganddo a'i brynu". Efallai y gwelwch awgrym o'r ddau yn yr hyn sy'n dilyn. Mae fy niddordeb yn y pwnc o gwynion yn erbyn meddygon teulu yn ymestyn yn ôl dros ddegawd a mwy, ers pan y cefais yr orchwyl o ymdrin â'r achosion oedd yn cyrraedd y Swyddfa Gymreig. Buan y sylweddolais fod angen diwygio'r system, oherwydd, fel ag y mae, nid yw'n deg i'r sawl sydd yn cwyno nac i'r meddyg sy'n gyff i'r gwyn. Erbyn hyn mae Pwyllgor Wilson wedi edrych ar holl rychwant cwynion yn erbyn y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (G.I.G.) ac yr ydym yn aros yn eiddgar am gyhoeddi ei adroddiad. Fy mwriad yn y papur hwn yw, yn gyntaf ceisio dadansoddi beth fyddai'r system ddelfrydol i ymateb i gwynion, yn ail rhoi braslun o'r hyn sydd gennym yn y G.I.G. ar hyn o bryd, yn enwedig ar ochr meddygaeth teulu, ac yn olaf i edrych ar sut y byddai'n bosibl i wella pethau. System Ddelfrydol Prin fod gofynion y cwsmer (y claf os y mynnwch), y cwmni sef y G.I.G., a'r meddyg yn union yr un peth. Felly, yn gyntaf, ystyriwn pa beth mae'r cwsmer yn debyg o chwilio amdano mewn system ddelfrydol. Lleiafrif bychan o gwsmeriaid sy'n cwyno mewn unrhyw fusnes, hyd yn oed yn yr oes hon o gyfreithio parod. Mae nifer y cwynion yn erbyn ysbytai yng Nghymru wedi cynyddu dros y ddegawd ddiwethaf o 981 i 2377 y flwyddyn, a chwynion yn erbyn meddygon teulu wedi codi o 91 i 151 y flwyddyn. Serch hynny, mae'n amlwg fod llai nag un o bob mil o gwsmeriaid, neu o leiaf ddarpar gwsmeriaid, yn achwyn. Mae hyn yn anhygoel o gofio fod o leiaf ddeuddeg miliwn o gysylltiadau rhwng cleifion a meddygon teulu yn unig pob blwyddyn. Wrth gwrs, mae carfan o gwynwyr proffesiynol yn bod, daethum ar draws un a wnaeth 52 o gwynion yn erbyn y gwasanaeth iechyd mewn blwyddyn, heb sôn am nifer fawr o gwynion yn erbyn yr adran dai ac ati. Er hynny, maer angen am rhyw ddygnedd rhyfedd mewn unigolyn i fynd ymlaen â chwyn yn parhau. Yn wir, mae rhai cwmnïoedd masnachol yn honni fod pob cwyn sydd yn eu cyrraedd yn cynrychioli o leiaf 100 ac efallai mwy sydd heb eu lleisio. Os cymharwn y 150 sy'n gwneud cwyn yn erbyn meddygon teulu â'r 10-15% o bobl sy'n dweud nad ydynt yn fodlon ar y gwasanaeth mewn gwahanol arolygon barn, efallai fod gwirionedd yn yr honiad.