Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

A YDYWYNBOSIBL TRIN DIRYWIAD GWEITHREDIAD YR ARENNAU? Dr Gerald A. Coles Yn ôl Meddygon Myddfai mae tri organ tew anwelladwy, sef yr afu, yr aren a'r galon, o achos pan mae afiechyd yn digwydd yn unrhyw un ohonynt does dim modd ei wella (1). Nid yw'r sefyllfa heddiw ddim mor ddrwg ond mae methiant arennol parhaol yn dal i fod yn broblem gyda tua 250 o bobl yn dechrau ar ddialysis yng Nghymru bob blwyddyn. Felly y nôd yw atal dirywiad yng ngweithrediad yr arennau. Fel rheol mae'r diagnosis "methiant arennol parhaol" yn cael ei wneud pan mae crynodiad wrea a chreatinin yn y gwaed yn parhau'n uwch na normal. Mae lefelau uchel yn golygu colled o hanner neu fwy o'r cyfradd hidliad glomerwlaidd (glomerular filtration rate). Mae'n bwysig sylweddoli nad yw methiant parhaol yn golygu'n angenrheidiol bod gweithrediad yr arennau yn mynd i waethygu yn gyflym. Mae rhai cleifion gyda lefel o greatinin yn y gwaed yn uwch na normal am dros ddeng mlynedd. Mae'n bwysig hefyd i gydnabod fod sawl achos o fethiant arennol ac felly y peth cyntaf i'w wneud yw darganfod yr union ddiagnosis gan ddefnyddio'r ffordd glasurol o hanes, archwiliad corfforol ac wedyn profion. Fel arfer mae uwchsain yn rhoi mwy o wybodaeth nag unrhyw brawf arall ond weithiau gall biopsi fod o help. Mae Tabl 1 yn rhestru yr achosion cyffredin a hefyd y posibilrwydd o driniaeth benodol. Er enghraifft, os wropathi rhwystrus yw'r diagnosis, unwaith mae'r dwr yn llifo'n rhwydd bydd gweithrediad arennol yn gwella. Yn anffodus hyd yn oed heddiw i'r mwyafrif o gleifion nid oes dim byd arbennig y gellid ei wneud. Felly y broblem yw sut i leihau'r dirywiad. Mae Tabl 2 yn dangos rhai o'r ffactorau sy'n gallu effeithio ar y prognosis. Mae plant yn ymateb yn well nag oedolion, ond mae dynion yn ymateb yn waeth na menywod. Mae'r math o glefyd yn bwysig, er enghraifft mae gweithrediad arennau amlgodennog yn dirywio'n arafach na'r rhai gyda llid y glomerwli. Mae sawl astudiaeth yn dangos fod llawer o brodin yn y dwr yn gwneud y rhagolygon yn waeth ac mae gorbwysedd hefyd yn cyflymu'r dirywiad. Un o'r datblygiadau pwysicaf yn y maes hwn yw tystiolaeth o fethiant arennau arbrofol sy'n awgrymu'r ddamcaniaeth ganlynol. Unwaith mae digon o niwed wedi digwydd i'r arennau wedyn mae'r broses yn hunan-ledaenu hyd yn oed os yw'r achos gwreiddiol wedi diflannu. Os yw'r ddamcaniaeth yn gywir, a phetai modd deall y broses neu brosesau sy'n cyfrannu i'r hunan-ledaeniad, wedyn efallai byddai triniaeth i atal neu arafu'r dirywiad yn