Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

PROBLEMAU YN GYSYLLTIEDIG Â CHAMDRIN ALCOHOL Miss Siân E.R. Owens RHARARWEINIAD Erbyn hyn mae alcoholiaeth yn broblem fawr yn llawer o wledydd y byd. Yng Nghymru a Lloegr rhwng 1969 a 1974 dyblodd defnyddiad gwin a bu cynnydd o 80% mewn defnyddiad gwirodion. Mae tystiolaeth bod cynnydd o'r fath wedi arwain at gynnydd mewn problemau wedi eu cysylltu ag alcohol. Mae mynediad i'r ysbyty oherwydd alcoholiaeth wedi bod yn cynyddu ar raddfa o 10.5% neu fwy ers 1969. Erbyn cyrraedd deunaw oed, mae'r rhan fwyaf o bobl ifainc wedi blasu alcohol, ac mae llawer ohonynt yn yfwyr rheolaidd yn barod. Mae hyn yn tyfu yn broblem fawr yn ein cymdeithas, a gall dyfu'n broblem corfforol hefyd os yw'r bobl ifainc yma yn tyfu i ddibynnu ar alcohol. Mae alcohol felly yn tyfu yn broblem enfawr yn ein cymdeithas. EFFEITHIAU SEICOLEGOL ALCOHOL: PAM BOD POBL YN YFED? Nid yw alcohol yn gyffur adfywio, er ei fod fel arfer yn cael ei ystyried fel un. Mae cyffur adfywio yn cynyddu neu yn mwynhau bywiogrwydd meddyliol a chorfforol unigolyn. Er y gall rhywun deimlo'n dda ar ôl yfed alcohol, yr hyn sydd yn rhoi'r teimladau yma yw'r ffaith bod rhannau o'r ymennydd yn or-weithgar fel bod teimladau annymunol neu bryderon yn cael eu hatal. Cyflwr dros dro yw hwn, gan fod alcohol mewn gwirionedd yn gyffur iselu. Mae effaith seicolegol alcohol yn gorffwys yn bennaf yng nghymeriad a thymer yr unigolyn. Mae beth bynnag sydd yn dod allan o'r profiad yma o'r cyffur yn dibynnu ar sut yr ydych fel person, hapus neu drist, lleidr neu yn gadwrydd cyfraith. Yn aml y ddiod gyntaf yw'r anoddaf. Mae'r rhan fwyaf o yfwyr yn cyfaddef profi blas drwg ac ymateb corfforol o salwch aeth efo'u profiad cyntaf o yfed gormod o ddiod feddwol. Mewn llawer o achosion, nid y pleser o yfed a wnaeth i berson barhau, ond pwysau cymdeithasol a seicolegol. Pan mae alcohol yn dechrau cael effaith mewn symiau bychain, gall unigolyn deimlo'n hapus ac yn ysgafn, yn dibynnu ar bersonoliaeth, tymer a disgwyliadau'r defnyddiwr. Fel mae yfed yn parhau, gall cysgadrwydd, tymestlogrwydd eithafol neu ddigalondid ddigwydd ynghyd ag anghysur seicolegol. (* Traethawd Gwyddonol Cymraeg a enillodd Wobr Gwyn Williams, 1994, Prifysgol Cymru).