Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

LLOFFION "Am yr igian "Yr îg sydd flinder gwrwstaidd a dirdynnol y cylla neu'r llengig, yn cyfodi oddi wrth unrhyw achos a gynhyrfa fân-wraidd eu gewynnau. Fe all darddu oddi wrth ormodedd o fwyta neu yfed; oddi wrth niwed a gafodd y cylla; pethau gewynol, ennyniadau a chwyddiadau celyd y cylla, y coluddion, y chwysigen, y llengig, neu eraill o rannau tufewnol y corff. Mewn madredd neu glefydau llymion ac adwythig, y mae yr igian yn fynych yn rhagflaenu marwolaeth. Pan y mae'r îg yn tarddu oddi wrth arferiad bwydydd gwyntog, neu o draul caled, gwydred o win da, neu dram o ryw wirod yn gyffredin a'i symmuda. Os gwenwyn a fydd yr achos, digonedd o laeth ac olew, a raid arferyd, megis y cyfarwyddwyd o'r blaen. Pan y mae yn tarddu oddi wrth ennyniad y cylla &c y mae yn dra pheryglus. Yn yr achos hwn, lluniaeth oeraidd sydd raid ei gymmeryd. Bydd raid i'r claf waedu, a chymmeryd yn fynych ychydig ddiferion o sweet spirit of nitre mewn cwppaned o faidd gwin. Rhaid twym-olchi ei fola hefyd â llieiniau wedi eu gwlychu mewn dwfr cynnes neu bledrenau llawn o laeth a dwfr cynnes gael eu gosod wrtho. Pan y mae'r îg yn tarddu oddi wrth fadredd neu fraeniad, y Peruvian bark, a chyffuriau diamheus eraill, yw'r unig feddyginiaethau sydd â thebygoliaeth ganddynt i lwyddo. Os yr îg a fydd yn brif afiechyd, ac yn tarddu oddi wrth amhuredd y cylla, wedi ei lwytho un ai ag irnaws llysnafeddog neu geraidd, cyfogydd a charthiedydd esmwyth, os bydd y claf yn alluog i'w goddef, a fydd yn wasanaethgar. Os bydd yn cyfodi oddi wrth wyntogrwydd, meddyginiaethau i'w chwalu, a gyfarwyddwyd eisoes am losgfa'r cylla, a raid eu harferyd. Pan fyddo'r igian yn profi yn dra ffyrnig, rhaid gwneuthur ymarferiad o feddyginiaethau perarogledd a gwrthwrthwrstaidd a raid eu defnyddio. Y penaf o'r rhai hyn yw mwsg; pymtheg neu ugain gronyn o ba un a ellir ei wneud yn belen neu dameidyn, a'i ail-ychwanegu yn achlysurol. Cwsg-feddyginiaethau ydynt hefyd o wasanaeth; ond rhaid eu harferyd yn ochelgar. Tamaid o siwgr wedi ei wlychu mewn compound spirits oflavender, neu'r volatile aromatic tincture, a ellir ei gymmeryd yn fynych. Cymmwysiadau allanol ydynt hefyd yn fuddiol ar brydiau; megis y stomach plaster, neu cataplasm Venice treacle o feddygdy Edinburgh neu Lundain, wedi ei gymwyso gogyfer â'r cylla. Bûm yn ddiweddar gydag un oedd â'r igian agos yn wastadol arno uwchlaw naw o wythnosau. Fe'i hatelid yn fynych wrth arferyd mwsg opiwm, gwin, a meddyginiaethau gwrthwrwstaidd eraill, ond fe ddychwelyd yn barhaol. Nid oes dirn, pa fodd bynnag, a roddai gymmaint o hamdden iddo a diod fain fywiog. Wrth yfed yn helaeth o hon, fe gedwid yr îg ymaith dros amryw ddiwrnodiau, yr hyn oedd fwy nag a ellid ei wneuthur gan y meddyginiaethau