Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

HYFFORDDIANT MYFYRWYR MEWN TRINIAETH LINIAROL Dr Mari Lloyd Williams Rhagarweiniad Mae mis Awst yn achos gofid i lawer o feddygon ty maent yn poeni am y cleifion a fydd yn eu gofal am y tro cyntaf. Byddent oil wedi derbyn llawer o brofiad er mwyn iddynt ddatrys rhan fwyaf o broblemau syml y claf ond sut fath o brofiad fydd ganddynt o edrych ar ôl y claf sydd yn marw? Yn 1982 pan oedd meddygaeth liniarol yn faes newydd iawn, edrychodd Ahmedzai (1) ar yr addysg yr oedd meddygon ty wedi ei dderbyn yn y maes yma. Datgelodd mai dim ond 4% oedd yn teimlo fod eu haddysg yn ddigonol. Cyhoeddwyd papur yn y British Medical Journal gan Elizabeth a Hughes (2) yn dangos fod 51% o raddedigion o Ysgol Feddygol Lerpwl heb dderbyn unrhyw hyfforddiant yn y maes arbennig hyn. Yn naturiol mae'r amser a roddwyd i bob pwnc yn wahanol ym mhob ysgol feddygol. Holodd Field (3) pob ysgol feddygol a datgelodd bod yr amser a roddwyd i ddysgu meddygaeth liniarol yn amrywio o awr i dair awr ar ddeg. Mae mwy na 180 hospis ym Mhrydain ond yn 1991 canfyddodd Thorpe (4) mai dim ond 29 oedd yn hyfforddi myfyrwyr meddygol. Mae'r papur yma yn ceisio datgelu faint o hyfforddiant mae meddygon ty wedi ei dderbyn mewn meddygaeth liniarol a hefyd beth yw eu hymateb i'r pwnc. Dull Anfonwyd holiadur i holl feddygon ty a oedd yn gweithio yn ysbytai Caerlyr yn ystod y drydedd wythnos o fis Awst, 1993, cyfanswm o 56. Roedd yr holiadur yn edrych ar y meysydd canlynol: 1) Holwyd faint o addysg ar feddygaeth liniarol yr oedd y meddyg wedi ei dderbyn pan yn fyfyriwr meddygol a gofynnwyd os oedd yn teimlo'n hyderus wrth ofalu am y claf sy'n marw. 2) Gofynnwyd os yr oeddynt yn ystyried y pwnc yn un pwysig. 3) Gofynnwyd os y byddent wedi hoffi treulio cyfnod mewn uned gofal liniarol fel rhan o'u hyfforddiant meddygol. Canlyniadau Derbyniwyd 41 o holiaduron wedi eu cwblhau yn ôl sef 73%. Cafodd y canlyniadau eu trin fel a ganlyn: 1) Roedd 27 (65%) o'r meddygon ty yn dweud nad oeddynt yn teimlo'n hyderus wrth ofalu am gleifion a oedd yn marw. Roedd 9 (23%) yn hyderus ac