Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

CYLCH CYFLAWN Huw Edwards (Gwasg Gee) Adolygiad gan Nia Owain Huws O'r cyffredin i'r anhygoel. O Awstralia i Dudweiliog. Cawn amrywiaeth ddiddorol o erthyglau meddygol a lled-feddygol yn y gyfrol hon gan y Seiciatrydd o Gaerfyrddin. Ffrwyth blynyddoedd o hau a medi ysgrifau sydd yma, gan ddod â'r erthyglau, sydd eisoes wedi'u cyhoeddi mewn cylchgronau megis "Y Faner", "Y Gwyddonydd" a "Cennad", at ei gilydd yn gasgliad hynod o gytbwys a diddorol. Llwyddodd i ddod â'r hen a'r newydd ynghyd wrth drafod testunau mor annhebyg i'w gilydd â hen feddyginiaethau a dannedd gosod! Gallwn yn hawdd weld bod yr awdur yn ei elfen yn trafod dau bwnc yn arbennig, sef traddodiad meddygol Cymru a moesoldeb gwleidyddol. Moesoldeb Gwleidyddol Byddai gwleidyddion byd-eang ar eu hennill petae nhw'n darllen "Gwenwyno Babanod", sy'n ymdrin â'r broblem o hysbysebu llaeth pwdr mewn gwledydd tlawd. Mewn llefydd megis Chile mae mamau'n cael eu cyflyru i roi'r gorau i fwydo o'r fron a phrynu llaeth pwdr. Golyga hyn aberth ariannol dychrynllyd i deuluoedd sydd eisoes yn dorcalonnus o dlawd. Yr un yw'r neges yn "Gwerthu Cancr i'r Tlodion" a'r marchnata anfoesol o dybaco sy'n digwydd yn y gwledydd llai datblygedig. Anodd yw i ni feddygon ddirnad y gall meddyg arall boenydio ei gyd-ddyn. Yn yr erthygl "Meddygon sy'n Poenydio" cawn gofio am erchyllderau Dr Mengele yn Auchwitz dan label ymchwil meddygol. Cyfeiria hefyd at gwrs ymarferol a gynhaliwyd yn Ne America i feddygon, ar boenydio, a hynny yn 1975! Er eu bod yn chwerw, mae'r rhain yn dabledi holl bwysig i ni'u llyncu. Cymreictod Ymysg diddordebau'r awdur mae casglu hen lyfrau sy'n ymwneud â Chymru. Tybiaf y daeth sawl dogn o hanes meddygaeth a meddygon Cymru o'r storfa hwn, wrth iddo bori'n helaeth ynddynt. Dysgais yn "Yr Hen Feddyginiaethau" bod John Wesley wedi mynd yn feddyg er mwyn cynnig triniaethau i'r tlawd. Roedd hefyd yn uchel ei gloch yn erbyn y weithred gyffredin o waedu a charthu a ddefnyddiwyd yn ei gyfnod i wella pob anhwylder! Mae "Meddygon Myddfai" yn caellle priodol a "Llysieulyfrau Cymreig" yn olrhain hanes llyfrau Cymraeg ar feddyginiaethau o'r 17eg Ganrif.