Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

SYNDRÔM GILLES DE LA TOURETTE Dr Egryn M. Jones "What a beautiful name for such a dreadful disease" SHAPIRO 1978 Mae yna gyflwr anarferol ond heb fod yn anghyffredin iawn sydd yn cael ei nodweddu gan diciau, ecoleferydd (echolalia), anlladleferydd (coprolalia), a ffalileferydd (phalilalia), ynghyd â symudiadau corfforol ystrydebol sydd yn arferol yn cyflwyno eu hunain mewn plentyndod. Yn aml caiff ei gamddiagnosio fel problem ymddygiad. Mewn gwirionedd hwn yw Syndrôm Gilles de la Tourette, ac oherwydd fod triniaeth effeithiol ar gael yn awr, gall diagnosis cynnar arbed trallod aruthrol i'r claf a'i deulu. Rhoddodd Gilles de la Tourette ddisgrifiad clir o'r syndrôm sydd yn dwyn ei enw yn 1885 (1). Roedd ar y pryd yn gweithio gyda'r newrolegydd Charcot yn L'Hôpital de la Salpetriere ym Mharis. Mae diddordeb o'r newydd yn ddiweddar yn y cyflwr oherwydd fod ei achos yn dod yn fwy eglur ac yn cael ei ymchwilio. Mae Syndrôm Tourette yn ymddangos rhan fwyaf mewn plant rhwng 5 15 oed (2). Mae'r diagnosis yn parhau i ddibynnu ar ei gyflwyniad clinigol, hynny yw presenoldeb ticiau, symudol a lleisiol, sydd yn cynnwys ecoleferydd, anlladleferydd a ffalileferydd ac mae'n debyg symudiadau ystrydebol cyffredinol y corff y gellir eu rheoli fel y mynnir. Dichon nad yw'r arwyddion hyn o angenrheidrwydd yn ymddangos ar yr un amser, mae eu mynychder a'u cymhlethdod yn amrywio. Mewn rhai achosion, mae'r ticiau yn gwella gyda treuliad amser, ac mewn eraill gallent ddiflannu'n llwyr. Gwelir y ticiau mwyaf dramatig, anlladleferydd, sef ynganu anlladrwyddion, mewn hanner y cleifion o'r bron. Cysyniad gymharol ddiweddar yw mai anhwylder symudiadau yn hytrach nag anhwylder seiciatregol yw Syndrôm Tourette. Mae cysylltiad cydnabyddedig ticiau a lleisio sy'n dilyn Enceffalitis Lethargica ac ymateb rhyfeddol y mwyafrif o'r cleifion i Haliperidol (Serenace) o ddiddordeb ychwanegol. Anhwylder genetig yw Syndrôm Tourette, sy'n cael ei drosglwyddo fel tueddiad trechol awtosomaidd. Mae dair gwaith mwy cyffredin mewn gwrywon na benywon, ac fe all ddatblygu'n gynyddol o blentyndod. Affeithia ar bob grwp diwylliannol yn fyd eang ond mae'n anghyffredin mewn pobl dduon. Cynhwysa'r ticiau motor amrantu, ymstumiau wynebol, nodio pen a symudiadau breichiau. Yn ychwanegol efallai bydd diffyg talu sylw, anawsterau dysgu a gor-actifedd. Gwelir amryfal anhwylderau obsesiynol gorfodol sydd yn peri trallod mawr i'r dioddefwyr eu hunain, eu cyfoedion, eu teuluoedd a'u hathrawon ysgol. Mae ardrawiad yr afiechyd y tybir un tro iddo