Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

AGWEDDAU AR WAITH CLINIG LLEDDFU POEN Dr Rhian Lewis Rhagarweiniad Mae'n amlwg o lenyddiaeth y byd fod poen wedi bod yn broblem drwy'r canrifoedd, a bu llawer ymgais i ddarganfod ffyrdd i'w leddfu. Dywedodd T.E. Nicholas, "Mae llawenydd a gofid, pleser a phoen yr un ym mhob gwlad ac ym mhob cyfnod." Mae rhai o'r ffyrdd o leddfu poen yn hen iawn, ac eraill yn hollol newydd i'r ugeinfed ganrif, ac wrth gwrs mae ymchwil am ffyrdd newydd yn mynd ymlaen yn barhaus. Dechreuwyd y clinig poen cyntaf ym 1936 yn yr Unol Daleithiau, ac wedyn agorwyd un yn Llundain ym 1947. Yn y chwedegau daeth ymwybyddiaeth fod angen clinigau aml-ddisgyblaeth, ac ym 1967 cyfarfyddodd 29 o feddygon i ffurfio Cymdeithas Poen. Erbyn yr wythdegau roedd gwaith trin poen cronig yn rhan o Hyfforddiant Arbenigol Uwch i bob anesthetydd. Yn yr ysgrif hon rwyf am geisio ateb tri cwestiwn ynglyn â'r gwaith: (1) pam mae angen clinig lleddfu poen?; (2) pa ddulliau yr ydym yn eu defnyddio, a pham?; a (3) pa mor lwyddiannus yw'r ymyraethau? Yr angen Ymateb yw'r clinig lleddfu poen i boen cronig ceisio rheoli poen nad yw dulliau eraill (neu ddulliau arferol) yn gallu ei reoli. Poenau yw rhain nad ydym yn deall eu hachos, ac hyd yn oed pe baem yn gwybod eu hachos, maent yn anodd eu trin. Yn y clinig lleddfu poen rydym yn gweld gwahanol fathau o boen, ac mae'n bosibl edrych arnynt fel tri grwp: (a) poen lle rydym yn gwybod yr achos ond bod y driniaeth yn annigonol, e.e. osteoarthritis, ymdreiddiad canser, niwed i'r nerfau perifferol; (b) poen lle nad ydym yn gwybod yr achos, ond bod y driniaeth yn ddigonol, e.e. cur pen neu boen yn yr wyneb; (c) poen lie nadydym yn gwybod yr achos, a bod y driniaeth yn annigonol, e.e. poen cefn, poen pelfig. Y broblem gyda phoen sydd yn parhau ar ôl i'r afiechyd neu'r anaf wella yw ei fod yn colli ei bwysigrwydd biolegol gan nad yw o unrhyw fudd. Fodd bynnag, sylweddolir fod poen cronig yn ddinistriol ac yn arwain at anabledd corfforol a meddyliol. Ar ben hyn, mae iddo ganlyniadau ariannol, corfforol ac emosiynol enfawr, ac mae'n anodd iawn gwahanu rhain. Nid ydym yn deall y fecanwaith ffisiolegol yn llwyr, ond mae nifer o syniadau yn cael eu crybwyll.