Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

O HANES MEDDYGAETH MEDDYGON ESGYRN MÔN A LERPWL Mr Mel W. Jones Cyflwyniad Rhoddodd y gwahoddiad i roi darlith i'r Gymdeithas Feddygol bleser mawr i mi oherwydd cefais y cyfle i drafod genedigaeth orthopedeg fel maes arbenigol o lawfeddygaeth. Mae'r hanes yma yn cysylltu Môn â Lerpwl lle bûm yn fyfyriwr ac yn derbyn rhan o'm hyfforddiant. Yn awr fi yw'r unig "feddyg esgyrn" sydd yn gweithio ar Ynys Môn. Mae'r stori yn cychwyn tua 250 o flynyddoedd yn ôl, rhywbryd rhwng 1730 a 1745, gerllaw arfordir gogleddol Môn ger Llanfairynghornwy yn ymyl safle'r Wylfa heddiw. Môr digon peryglus sydd o gwmpas yr arfordir yma ac un noson roedd yna longddrylliad. Yr unig oroeswyr oedd dau o hogiau ifainc, a daethpwyd o hyd iddynt yn cilio yng ngwaelod cwch rhwyfo bychan gan smyglwr lleol o'r enw Dannie Lukie. Aeth Lukie a hwy i Mynachdy, cartrefy meddyg lleol, Dr Lloyd. Ni wyddom beth a ddigwyddodd i un o'r hogiau, efallai y bu farw. Ond cafodd y llall ei ddwyn i fyny gan Dr Lloyd a rhoddwyd yr enw Evan Thomas iddo. Mae'n bosibl mai efeilliaid oedd y bechgyn, a buasai hynny'n esbonio'r enw Thomas, sydd yn tarddu o'r gair Groeg 'didumos' sef gefaill. Evan Thomas y llongddrylliad (? 1814) O ble daeth Evan Thomas? Rydym yn gwybod ei fod yn siarad iaith estron ac roedd ei bryd yn dywyll. Mae'n bosibl mai Sbaenwr oedd, oherwydd roedd cysylltiad cryf rhwng pabyddion yr Alban a Sbaen yr adeg hynny. Awgrym arall yw mai Sgotyn yn siarad Gaeleg oedd yn dianc i Ffrainc ar ôl Gwrthryfel y Jacobiaid yn 1745. Beth bynnag oedd ei wreiddiau, fel Cymro y magwyd Evan Thomas yn Sir Fôn. Yn fuan iawn daeth yn amlwg fod gan y bachgen yma ddawn arbennig i wella anifeiliaid ac adar wedi eu hanafu. Mewn ardal wledig fel Sir Fôn roedd iechyd da yn bwysig iawn i'r bobl am resymau ariannol. Roedd mor llwyddiannus gyda'r anifeiliaid fel bod rhai pobl yn dechrau mynd ato am driniaeth iddynt eu hunain. Ac nid y werin yn unig aethant ato, ond hefyd y bonedd. Mae hanes amdano yn gwella bys yr Arglwyddes Bulkeley ar ôl i'r meddygon fod yn aflwyddiannus. Edrydd stori arall amdano yn cael ei alw ar frys dros Glawdd Offa i gyffiniau Amwythig gyda ffi o £ 300 yn cael ei addo iddo — swm enfawr yr adeg honno! Yn 1763 priododd a symud i fyw i Maes, ac fel Evan Thomas y Maes yr