Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

DEFNYDDIO PELYDRAU-X I DRIN CANSER YNG NGWDDF Y GROTH Dr Bleddyn Jones YR HANES Yn fuan ar ôl i Marie a Pierre Curie ddarganfod yr ymbelydredd naturiol o Radiwm, fe'i defnyddiwyd i drin canser. Er mwyn trin canser yn y groth, gosodwyd tiwbiau neu belau bychain hirgrwn yn cynnwys Radiwm yng ngheudod y groth ac yn y gamlas cerfigol. Erbyn y cyfnod 1920-1930 datblygwyd y dechneg a chynyddodd y profiad clinigol yn helaeth. Argraffwyd nifer o bapurau'n disgrifio sawl ffurf o driniaethau yn ninasoedd Paris, Stockholm a Manceinion, yn un ohonynt rhoddwyd mesur arbennig o Radiwm o amgylch canser gwddf y groth am amser penodol (e.e. 50 mg o radiwm am 150 o oriau). Rhoddwyd yr un driniaeth (ac felly yr un ddogn) i bob menyw ac fe ddaeth y math yma o driniaeth yn rheolaidd dros y byd. Dyma ganlyniadau'r driniaeth: Heb ganser (%) Sgîl-effeithiau difrifol (%) Gradd 1 85-95 5-10 Gradd 2 50-70 5-10 Gradd 3 20-40 5-10 Gradd 4 <10 5-10 Yn y cyfnod 1950-1970 datblygwyd peiriannau nerthol yr oes megafoltedd. Rhydd y cyflymyddion unionlin (linear accelerators) yma belydrau-X sydd yn medru treiddio i rannau dyfnaf y corff fel ceudod y pelfis er enghraifft. Pan anelir ymbelydredd o bedwar cyfeiriad at y pelfis gellir rhoi dogn gydryw i'r groth ac i'r chwarennau lymffatig ar yr un pryd. Fe ddaeth ysgol newydd o radiotherapi i fodolaeth, a oedd yn defnyddio y dull hwn o driniaeth, yn gyntaf i leihau maint y canser cyn defnyddio Radiwm i roi dogn ychwanegol iddo fel y cafodd ei ddisgrifio gan Gilbert Fletcher (1) yn yr Unol Daleithiau. Yn y cyfamser defnyddiwyd Caesiwm a Radiwm mewn ysbytai gan nyrsus a meddygon, ac fe ddaeth yn amlwg bod gweithwyr iechyd, cleifion, ymwelwyr â'r ysbytai ac eraill yn agored i ymbelydredd dianghenraid a niweidiol. Oherwydd hyn, datblygwyd peiriannau otomatig i anfon yr ymbelydredd i'r corff, ac ar yr un pryd defnyddiwyd caesiwm crynodedig, a rydd ymbelydredd lawer yn gyflymach (e.e. dros 50 0 oriau). Dyma'r oes peiriannau ôl-lwythol (after-loading), e.e. y peiriant Selectron. Yn fuan, digwyddodd sgîl-effeithiau