Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

SIOPLADRAD Dr Huw Edwards Sut datblygodd siopau Mae'n debyg fod y siop fodern wedi datblygu o'r ffair ganol oesol. Cynhaliwyd ffeiriau ar wyliau arbennig gan gynnig nid yn unig adloniant a man cyfarfod i'r holl gymdogaeth ond, hefyd, gyfle i brynu a gwerthu nwyddau, yn enwedig bwyd, yn ogystal ag anifeiliaid. Rhagflaenai'r ffeiriau'r marchnadoedd a ddatblygwyd i ateb yr un amcanion economaidd, ond mewn ffordd mwy effeithiol. Datblygodd y siopau parhaol cyntaf yn sgîl y marchnadoedd hyn. Hwy oedd rhagflaenwyr y siopau cymhleth ac enfawr a geir erbyn hyn. Yn ddiamau, roedd lladrad yn gyffredin ac yn beth anodd i'r marsiandïwr ei osgoi yn y ffair neu farchnad ganoloesol. Yn raddol datblygwyd dulliau defodol o brynu a gwerthu a oedd yn lleihau'r posibilrwydd y byddai lladrad llwyddiannus yn digwydd. Daeth yn gonfensiwn i'r cwsmer sefyll ar y naill ochr i fwrdd pren ac i'r gwerthwr sefyll ar yr ochr arall. Petai'r cwsmer yn croesi'r cownter heb wahoddiad byddai hyn yn codi amheuon ynglyn â'i fwriad ar unwaith. Y cwsmer oedd holl ffynhonnell bywoliaeth y siopwr ond, ar yr un pryd, roedd yn rhywun i'w ddrwgdybio. Nid oedd gan y siopau cynharaf ffenestri ac felly mater rhwydd oedd i'r lleidr estyn ei law i mewn a chrafangio unrhyw wrthrych a oedd yn ei chwennych. Pan ddyfeisiwyd platwydr, a ellid ei ddefnyddio ar gyfer ffenestri siopau, mae'n rhaid fod hyn wedi gwneud bywyd yn llawer iawn anos i ladron. Yn ôl Walsh (1978), dyfeisiwyd y platwydr cyntaf yn Ffrainc yn 1688 ac fe'i cyflwynwyd i Brydain gan yr Huguenots yn 1773. Cyn platwydr gwnaed ffenestri siopau o ddarnau bychain o wydr a osodwyd mewn ffram o blwm (neu o bren). Gwelwyd uchafbwynt y siop fawr drefol yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Roedd siopau o'r fath yn lân, yn effeithiol ac yn syber. Gwerthasid nwyddau o safon uchel ac roedd digon o gynorthwywyr boneddigaidd i sicrhau gwasanaeth ardderchog. Byddai'r siopwr yn ceisio denu cwsmeriaid parchus ac yn osgoi gwerthu i aelodau o "raddau is cymdeithas" (yn y marchnadoedd y gwerthwyd y rhan fwyaf o'r bwyd o hyd). Datblygwyd storau adrannol 01875 ymlaen, yn darparu ar gyfer anghenion y dosbarth canol yn bennaf. Bach iawn oedd nifer y storau hyn tu allan i'r dinasoedd mawrion hyd at ddiwedd yr Ail Ryfel Byd. Trefnwyd pob siop mewn ffordd a oedd yn debyg o rwystro lladron. Heblaw am drefniant y cownteri, gwaharddwyd rhai mathau o bobl rhag mynd i mewn i'r siop. Cyflogai siopau mawr borthorion at y pwrpas yma a defnyddiai siopau llai hysbysiad i ddatgan na fuasent yn gweini ar rai categoriau o bobl. Ond mae'n debyg mai sicrhau bod digon o staff i roi sylw arbennig i bob cwsmer