Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

O HANES MEDDYGAETH Ni ddaw cynnydd heb ymdrech: golwg ar rai o gyhoeddiadau meddygol tref Abertawe mewn oes a fu. Pe meiddiwn ddywedyd bod hanes yn profi rhywbeth, dyma fyddai: na ddaw cynnydd heb ymdrech; nid yw fel yr yd, yn tyfu â'r llafurwr yn cysgu. Y mae'n rhaid ymegnïo hyd yn oed i gadw yr hyn sydd gennym, heb sôn am ennill tiroedd newydd. R.T. Jenkins [1] Dr T.G. (Tom) Davies Y mae'n gred weddol gyffredin ymhlith yr anghyfarwydd fod pob gwelliant o bwys mewn meddygaeth wedi digwydd o fewn cof, ac y gellir priodoli pob gwir gam ymlaen yn y maes i ddiwydrwydd gweithwyr ymchwil cyfoes. Mewn gwirionedd, gellid dadlau fod y gwaith a gyhoeddwyd yng nghylchgronau meddygol y bedwaredd ganrif ar bymtheg lawn cystal o ran ei ansawdd â'r hyn a welir ar hyn o bryd. (Cymerer, er enghraifft, y llythyr hwnnw o tua 1,100 0 eiriau a gyhoeddwyd yn y Lancet yn 1833 gan un o feddygon Fferyllfa sir y Fflint, Mr Peter Williams, lie y soniodd am ei driniaeth ar gyfer rhwystr yn y perfedd. Prin y gellid dweud fod y sawl sydd yn ysgrifennu i'n cylchgronau cyfoes yn llwyddo i wneud hynny â mwy o arddeliad.) Gwneir ymgais yn y papur hwn i ddangos fod ar gael mewn un dref Gymreig (Abertawe) yn y gorffennol arwyddion pendant o'r math o feddylfryd yr oedd ei angen er mwyn sbarduno datblygiadau meddygol newydd. Felly, tynnir sylw at ychydig o waith cyhoeddedig rhai o feddygon y dref honno mewn oes a fu, er mwyn ceisio dangos ehangder eu diddordebau, a maint eu diwydrwydd, gan ddechrau ar ddiwedd y ddeunawfed ganrif. Bid siwr, yr oedd yno draddodiad meddygol hyn ó bell ffordd, er mai prin yw'r wybodaeth amdano. Ni chredir bod Ysbyty'r Bendigaid Ddewi Sant, a agorwyd yn y dref yn y canol oesoedd, yn ymgymeryd â gorchwylion meddygol, gan mai gofalu am offeiriaid ffaeledig 'a dynion tlawd eraill' oedd pwrpas y lle. Ni wyddys dim am y gwasanaeth meddygol a oedd yn rhan annatod o swyddogaeth Mynachlog Nedd, nad oedd ond rhai milltiroedd i ffwrdd, er bod digon o Ie i gredu i'r mynachod, fel eu cymheiriaid mewn mannau eraill, gyflawni gwaith o bwys yn y maes. Yr esgobion fu â'r hawl i gofrestru meddygon am ganrifoedd lawer. Dangosodd y Dr Thomas Richards nad oedd ond tri ffisigwr a oedd wedi eu trwyddedu ar gyfer hynny trwy esgobaeth Tŷ Ddewi yn y flwyddyn 1665, ond nid oedd yr un ohonynt yn byw yng nghyffiniau Abertawe. Er na restrir ond tri meddyg o Abertawe yn y cofrestr meddygol a gyhoeddwyd yn breifat ym 1780, y mae ar gael wybodaeth