Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

AFIECHYD CREUTZFELDT-JAKOB; 0 SAFBWYNT SEICIATRYDD YR HENOED Dr. D.D.R. Williams Yn yr erthygl hon disgrifir cefndir Afiechyd Creutzfeldt-Jakob, afiechydon prion, cyfres bersonol o gleifion ag A.C.J., a'r afiechyd newydd mewn gwartheg B.S.E., Enceffalopathi Sbyngiffurf Buchaidd. Y Cefndir Erbyn heddiw cyfeirir at Afiechyd Creutzfeldt-Jakob fel un o afiechydon "prion". Enw newydd yw prion ac mae hefyd yn lythyrenw. Mae wedi ei greu o'r llythrennau blaenllaw yn y dywediad, protinaceous infectious particle (1). Mae yn rhywbeth bach iawn, dipyn yn llai na firws, ac wedi ei gyfansoddi o dalp bychan iawn o brotin. Dyma'r gronyn bach heintus sy'n gyfrifol am yr afiechydon arbennig hynny y gellir eu trosglwyddo'n arbrofol o un anifail i'r llall. Dim ond un ddamcaniaeth yw prion am natur achos yr afiechydon arbennig yma. Gwell enw arnynt efallai yw enceffalopathïau sbyngiffurf trosglwyddedig, ond mae'r term hwn llawer garwach ar y glust. Tabl 1: AFIECHYDON TROSGLWYDDIEDIG YSBWNGIOL Anifail Afiechydon Lleoliaeth Dyn Kuru Papua New Guinea Creutzfeldt-Jakob Disease Y byd i gyd Gerstmann-Straussler- Y byd i gyd Scheinker (G.S.S.) Defaid Scrapie-Yr Ysfa Y Byd Heblaw Awstralia a Seland Newydd Mink T.M.E. Gogledd America Gwartheg B.S.E. Prydain ac Ewrop (1987) Cathod F.S.E. Lloegr (1990)