Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

GWENWYNIAD PLWM MEWN PLANT Dr Duncan Cameron Mae yna lawer o sôn am wenwyn plwm yn y cylchgronau pediatrig Americanaidd ar hyn o bryd. Cwyd y pryder oherwydd fod hyd yn oed lefel isel o blwm yn gallu achosi diffyg niwroymddygiadol, a disgrifiwyd effaith plwm ar blant gan Dr H.L. Needleman o Boston, un o'r prif ymchwilwyr yn y maes, fel "lleidr tawel dyfodol ein plant". (1) Datganiad cryf. Mae digon o blwm yng Nghymru, yn arbennig yn y gogledd a'r canolbarth, er nad oes bellach byllau yn gweithio. Yn wreiddiol cloddiwyd plwm yng Nghymru gan y Rhufeiniaid, ac yn awr mae yn cael ei ddefnyddio'n fyd-eang. Mae cramen y ddaear yn gyfoethog mewn plwm, ac mae'n hawdd i'w fwyngloddio, a mater syml yw ei fwyndoddi. Y dyddiau hyn cynhyrchir 5,500.000 o dunelli bob blwyddyn fyd-eang. Caiff ei ddefnyddio i sawl pwrpas fel e.e. asiant gwrth-gnoc mewn petrol, mewn adeiladu, mewn plymio ac ati. Un dull i fesur faint o blwm sydd wedi cael ei ollwng i'r amgylchfyd yw dadansoddi lefelau plwm yng nghapan rhew yr Artig; mae samplau gwahanol haenau yn adlewyrchu gwahaniaethau mewn lefelau plwm yn yr amgylchfyd yn ystod ffurfiant y rhew. Dros y canrifoedd cododd y lefel yn raddol, tan ddyfodiad y chwyldro diwydiannol pan ddigwyddodd cynnydd mawr, ac yn y ganrif hon, yn oes y ceir modur bu cynnydd anferthol. Pa ffynonellau o blwm sydd yn affeithio arnom ni heddiw? Yn gyntaf, rydym yn anadlu plwm o betrol yn yr atmosffer, yn ail mae rhai paentiau yn ei gynnwys, ac yn y pedwardegau roedd paent yn cynnwys mwy na 40% o blwm. Os yr ydych yn byw mewn ardallle mae lefel plwm yn uchel, mae'n bosibl i chi gymeryd swm sylfaenol ohono mewn llysiau, os nad ydynt wedi cael eu golchi. Derbyniwn blwm yn y dwr os oes pibelli plwm yn y ty, ac yn enwedig os yr ydym yn yfed dwr meddal o dap dwr poeth yn fuan ar ôl codi yn y bore. Yn olaf, gall plant ifainc amsugno plwm o'r llwch ar y llawr, pan mae wedi ei lygru gan hen baent. Mae manylion gwenwyniad plwm dwys yn wybyddus i bawb, ac yn un o'r hoff gwestiynau a ofynnir yn arholiad Aelodaeth Coleg Brenhinol y Phisigwyr (M.R.C.P.). Afiechyd enceffalopathig yw, fe'i amlygir weithiau gan atacsia a ffitiau er fod hyn yn anghyffredin y dyddiau hyn. Arwyddion eraill yw niwropathi perifferol, poen yn y bol, anemia, niwed arennol, llinell plwm yn yr esgyrn, a'r adnabyddus linell las yng nghig y dannedd. Wrth edrych drwy'r llenyddiaeth ynglyn â phlwm, gwelwn fod dwy stori hanesyddol ddiddorol. Wrth drafod cwympiad yr Ymerodraeth Rufeinig dywedir nad y Fisigothiaid a'r Fandaliaid oedd yn gyfrifol am y cwympiad, ond yn hytrach gwenwyniad plwm. Dim ond y boneddigion Rhufeinig allai