Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Darlith yr Eisteddfod Genedlaethol, Bro Colwyn, 1995 DARLLEN PENNAU Rhagarweiniad Mesur y pen mae Ioseph, ei fesur A'i fysedd cywirgraff, Y gwyniau, gwâr ac anhoff, Pob dawn, os cyflawn yw'r cyff. Mewn addysg ymenyddol e noda Un yn adyn cnawdol, Ac arall yn ddoeth gwrol, A'r llall yn ffellach pen ffol. Un a'i ddoniau sydd anwag, ac arall A'i goryn yn orwag; Sylwa fod pob un yn siolwag, Fel pen mul, yn gul a gwag. Pen llawn llwyr hylawn lle'r elo, pen trwm Poen yw tramwyo dano; Pen gwag, lle bynnag y b'o, Sy geryn haws i'w gario. Robert Ellis, 1810-75 (Cynddelw) yw awdur yr englynion uchod i Ymenyddeg ac mae'r bardd yn nodi iddo gyfansoddi'r "Englynion hyn flynyddau yn ôl ar ymweliad â Josephus Eryri yn Lerpwl" (pwy bynnag oedd hwnnw). Maent yn ein hatgoffa fod nid yn unig Cynddelw ond llawer o enwogion eraill y genedl Gymreig yn gredinwyr mewn ffrenoleg yn ystod y ganrif ddiwethaf. Dywedir bod Lloyd George yn gredwr cryf ac mae'n sicr fod y naturiaethwr enwog Alfred Russell Wallace, a anwyd ym Mrynbuga yn 1823 ac a oedd yn gyd-ddarganfyddwr dewisiad naturiol (natural selection) gyda Charles Darwin, yn argyhoeddedig ynglyn â dilysrwydd ffrenoleg hyd ddiwedd ei oes hir. Yn wir, mae'r rhestr o enwogion Oes Victoria a oedd yn frwd o blaid ffrenoleg yn un faith ac mae'n cynnwys nifer o feddygon, athronwyr a llenorion amlyca'r dydd. Roedd Richard Cobden yn gefnogol a dywed Richard Whately, Archesgob Anglicanaidd Dulyn, ei fod "mor sicr ynglyn â gwirionedd ffrenoleg ag ydwyf fod yr haul yn awr yn yr wybr", gan amddiffyn Dr Huw Edwards