Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

CWYNION YN ERBYN MEDDYGON Dr Ieuan Parri Golyga gwaith meddyg ei fod mewn cyswllt agos iawn â'r cyhoedd gydol ei yrfa. Yn fwy na hyn, y mae hefyd mewn cyswllt â'r cyhoedd ar adeg sensitif iawn yn eu bywyd, hynny yw pan fydd yr unigolyn yn wael, mewn poen, dan bwysau emosiynol, ac yn gyffredinol mewn cyflwr meddyliol simsan. Ar adegau fel hyn y mae'n bosibl iawn y bydd y claf yn teimlo iddo, neu hi, gael cam. Yn yr un modd, os bydd claf farw, gall ei deulu deimlo'n bur ddig ac awyddus i feio rhywun. A'r nesaf i law, fel petai? Y meddyg, wrth gwrs. Felly, nid yw yn syndod fod y cyhoedd yn cwyno yn erbyn meddyg. Efallai ei bod yn syn fod cyn lleied yn cwyno, o gofio'r pwysau sydd ar y berthynas. Awgryma'r ffaith hon ymhellach fod gan y cyhoedd, yn gam neu'n gymwys, ffydd fawr iawn mewn meddygon, boed y rhain yn feddygon teulu neu feddygon ysbyty. Sawl gwaith y gwelir meddyg, sydd ym marn llawer, yn esgeulus iawn, neu yn ymddwyn mewn modd hollol amhroffesiynol, ond yn llwyddo i osgoi cwyn yn ei erbyn; neu os bydd cwyn, fod ei gleifion yn ei gefnogi i'r carn ac yn trefnu deiseb i achub ei gam. Ond er hyn i gyd, cynyddu y mae nifer y cwynion yn erbyn meddygon, a hynny mewn modd brawychus. Er enghraifft, yn 1987, cafwyd 1027 achos yn erbyn meddygon teulu gerbron Pwyllgorau Gwasanaethau Meddygol. Erbyn 1993, cododd y nifer hwn i 1811 achos. Gwelir ffigurau cymharol am y blynyddoedd 1980 1992 yn nhabl 1. Nid oes unrhyw dystiolaeth fod y sefyllfa yn wahanol parthed meddygon ysbyty. Yn sicr y mae nifer o resymau am y sefyllfa hon. Erbyn hyn, diolch i Siarter y Dinesydd a Siarter y Claf, y mae'r cyhoedd yn llawer mwy ymwybodol o'u hawliau, (er efallai yr un mor anwybodus parthed eu dyletswyddau). Gwyddant fod ganddynt hawl i gwyno yn erbyn meddyg, neu nyrs, neu weinyddwr. Yn ogystal, ac yn sbardun i eraill, caiff unrhyw achos o gwyn yn erbyn meddyg gryn dipyn o sylw gan y cyfryngau a'r newyddiaduron, yn arbennig felly os cyrraedd yr achos lys barn. Y mae'n bosibl hefyd fod nifer o'r cwynion yn rhyw 'bysgota', fel paratöad i achos llys. Y mae'r cwynwr, boed hwnnw y claf ei hun neu gynrychiolydd y claf, yn profi'r dwr, fel petai, i gael syniad sut ymateb gaiff y cwyn. Ac wrth gwrs, y mae dwyn cwyn gerbron Pwyllgor Gwasanaethau Meddygol yn rhad, nid oes gostau ffurfiol i'r naill ochr na'r llall! Erbyn hyn y mae meddygaeth wedi datblygu yn faes cymhleth iawn ac nid yw yn rhesymol i unrhyw unigolyn fod yn hyddysg ymhob agwedd. O'r herwydd, y mae'r posibilrwydd o wneud camgymeriad yn llawer mwy ac, o ganlyniad, y perygl o gwyn yn uwch.