Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

TEITHIO IACHUS Dr Meirion Evans Teithio'n obeithiol, dychwelyd yn sâl Bob blwyddyn mae miloedd o bobl yn gwario arian mawr ar eu pythefnos o haul, hwyl a heli. Mae i fod yn gyfle i adael eu gofidion ar ôl ac i fwynhau eu hunain. Ond i rai ohonynt, fe fydd yn achos anghysur a salwch. Mae dros 30,000,000 o ymweliadau tramor yn awr yn cael eu gwneud o Brydain bob blwyddyn, ac mae 5,000,000 ohonynt i lefydd tu faes i Ewrop. Wrth i bris hedfan ddod yn rhatach mae'n debyg y bydd y nifer yma yn cynyddu'n gyflym nes bod un o bob pedwar o deithiau tramor i wledydd pell ymhen y deng mlynedd nesaf. Gyda'r cynnydd yma daw hefyd gynnydd mewn clefydon teithwyr. Beth yw'r peryglon? Bydd bron i draean o deithwyr tramor yn cael rhyw fath o glefyd. Y dolur rhydd yw'r mwyaf cyffredin. Ond mae llosg haul yn broblem bwysig hefyd, yn arbennig gan ei bod yn cynyddu risg o ganser yn y croen. Mae pythefnos o haul yn y trofannau gymaint ac y mae llawer o bobl yn ei gael yn ystod gweddill y flwyddyn. Mwy difrifol yw Malaria ac AIDS. Bob blwyddyn mae dros ddwy fil o achosion o Malaria ym Mhrydain ac mae deg ohonynt yn marw. Dwyrain a gorllewin Affrica yw'r llefydd peryclafyn arbennig gyda tyfiant nodau'r parasit sy'n wrthwynebus i clorocwin (chloroquine). Mae efallai tua cant o achosion o AIDS yn cael eu heintio pan ar ymweliad tramor. Hyd yn oed o fewn Ewrop mae AIDS dri neu bedwar gwaith mwy cyffredin yn Sbaen, Ffrainc a'r Eidal. Pwy sydd mewn perygl? Pobl ifanc sydd debycaf o ddioddef o ddolur rhydd. Mae'r perygl yn fwy pellach bo pen y daith i'r dwyrain neu'r de, ond mae i ogledd Affrica a dwyrain Ewrop enw gwael hefyd. Wrth gwrs, mae'r perygl yn dibynnu ar bwrpas a hyd yr ymweliad. Felly, dylai'r doctor gymeryd gofal i sicrhau ei fod yn gwybod y manylion yma pan yn rhoi cyngor i'r teithiwr. Tabl Proffil teithwyr mewn perygl teithwyr gwyliau pecyn pobl ifanc (o dan 30 oed) teithwyr dibrofiad teithiwr ar ei ben ei hun