Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

0 HANES MEDDYGAETH SYR WILLIAM ROBERTS A PENICILLIN Dr Emyr Wyn Jones Prin bod angen rhoi adroddiad manwl mewn cylchgrawn diwylliannol am ddarganfyddiad Penicillin, ond fe ymddengys y gellir yn rhwydd gyfiawnhau amlinelliad byr o'r stori pe ond am resymau hanesyddol. Mae rhai o brif agweddau'r hanes yn ddigon hysbys erbyn hyn i bob lleygwr deallus, ond y mae'n wir hefyd fod dogn helaeth o ramant wedi'i blethu o gwmpas y sylwadaeth wyddonol o'r nam ataliol ar dwf bacteria gan y ffwng Penicillium yn yr arbrawf neu'n hytrach yn y digwyddiad cyntaf. Rhoddwyd enghraifft deg o'r fersiwn 'awdurdodedig' a chydnabyddedig mewn crynodeb gan Syr George Pickering, a dyma drosiad o'r brawddegau perthnasol: 'Roedd Fleming yn mathu (typing) y bacteria Staphylococci ym 1929. Wedi iddo archwilio'r twmpathau bychain a dyfwyd ar y platiau agar, gadawodd y dysglau Petrie ar y fainc yn ei labordy, lle'r agorai'r ffenestr ar Praed Street. Cyn eu taflu ymaith edrychodd arnynt eilwaith, a sylwodd fod ffwng ar un ohonynt. O gwmpas y ffwng roedd y Staphylococci wedi diflannu, buasai 999 0 bob mil o facteriolegwyr wedi dweud wrtho'i hun: "drapia'r llygriad 'na!" Ond testun diddordeb Fleming oedd tynged y bacteria ac nid presenoldeb y ffwng. Tybiai a ydoedd yn bosibl i'r ffwng gynhyrchu rhywbeth a fedrai ddinistrio bacteria Trwy feithrin y ffwng cynhyrchwyd hylif a fedrai amddiffyn llygod rhag heintiad. Fe'i galwodd yn Penicillin. Och! nid oedd gan ei gydweithiwr cemegol, Raistrick, ffydd a rhoi'r gorau wnaeth i'r ymgais i buro'r hylif. Roedd angen rhyfel, athrylith weinyddol Florey, a doniau cemegol Chain, i buro digonedd i drin cleifion.'1 Un o ganlyniadau anffodus adroddiadau cywasgedig yw nad oes gan leygwr ystyriol fawr o obaith am gyrraedd adnabyddiaeth ddigonol o gyflawn arwyddocâd y stori. Beth bynnag yw'r eglurhad, y ffaith ar hyn o bryd yw bod nifer mawr o'r cyhoedd wedi clywed am enw Fleming ac am y ffenestr tra nad oes ond ychydig iawn yn gwybod am fodolaeth Howard Florey ac Ernst Chain, a neb bron, o'r tu allan i gylchoedd meddygol a gwyddonol, wedi clywed am eu cyfraniadau allweddol. Roedd yr Athro Ronald Hare yn ei gyfrol safonol The Birth ofPenicillin (1970), wedi cyflwyno dadansoddiad gwyddonol o'r holl hanes, flwyddyn ynghynt na datganiad Pickering, dadansoddiad yn deillio o'i wybodaeth bersonol ac arbenigol fel bacteriolegydd a fu'n llafurio'n ddiwyd yn yr un maes ac yn yr un labordai â'r tri arloeswr. Gyda llaw, dywed