Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

GYFARCH DAFYDD ALUN, AR EI 'YMDDEOLIAD' Dafydd, d'orchwyl fu dofi hen heidden gelwyddog ei hynni, rhoi yn gla'r ewynnog li gan y daer genadwri. Rwyt gennad dros gariad gwâr y cennad i'r cannoedd fu'n flysgar; gwelaist y rhai mewn galar a rhoi cefn i bryder câr. I Dalwrn a'i dawelwch, i aelwyd a wyla dynerwch, i dref a'i lledrith yn drwch y daw heulwen diolwch. Dr Ieuan Parri Cyflwynwyd yr englynion hyn wedi eu fframio i anrhydeddu Dr Dafydd Alun Jones, M.D., B.Sc., F.R.C. Psych, D.P.M., ar faes Eisteddfod Genedlaethol Bro Colwyn ar achlysur ei ymddeoliad fel Seiciatrydd Ymgynghorol o Ysbyty Gogledd Cymru, Dinbych. Wedi gyrfa nodedig, yn cynnwys cyd-weithio â'r Athro Linford Rees yn ysbytai Bethlem a Maudsley yn Llundain, apwyntiwyd Dr Jones i'w swydd yn Ninbych yn 1964. Symbylodd Dr Jones newidiadau chwyldroadol mewn agweddau at ofal y cleifion eu meddwl yn y rhanbarth drwy roddi y pwyslais ar ddychwelyd y cleifion preswyl i'r gymuned, polisi sydd erbyn hyn wedi ei fabwysiadu yn gyffredinol. Mewn gwirionedd wrth wneud hyn, defnyddiodd Dr Jones ffrwyth ei ymchwil M.D. ar 'Afiechyd Meddwl yn Sir Fôn', gwaith a symbylwyd gan y diweddar Dr Gwilym Wynne Griffith, i bwrpas ymarferol. Mae yn aelod o Bwyllgor Cyswllt Sefydlog Coleg Brenhinol Seiciatryddion a Chymdeithas Seicolegol Brydeinig, ac yn aelod o Bwyllgor Gwaith Camddefnydd Cyffuriau, yn ogystal â chynrychioli'r rhanbarth ar Adran Camddefnydd Cyffuriau, Coleg Brenhinol Seiciatryddion. Yng ngogledd Cymru sefydlodd Dr Jones C.A.I.S., mudiad sydd wedi arloesi triniaeth a chefnogaeth i rai sydd yn gaeth i alcohol a chyffuriau. Mae'n parhau i weithredu fel cadeirydd y mudiad, a chydag ad-drefnu'r Gwasanaeth Iechyd yng ngogledd Cymru ym mis Ebrill 1996 bydd y sefydliad hwn yn gyfrifol am ddarparu gwasanaeth yng Nghlwyd. Gellid ychwanegu llawer am gyfraniad Dr Dafydd Alun i fywyd gogledd