Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

ADOLYGIADAU Lloffa yn LlYn gan Emyr Wyn Jones (1994) Pris £ 4.95 Henry M. Stanley: Pentewyn Tân gan Emyr Wyn Jones (1992) Pris £ 5.50 gan T.G. (Tom) Davies Ar ymddeoliad yr Athro Caerwyn Williams, ysgrifennodd Mr Derwyn Jones ddau englyn iddo a oedd yn cynnwys y cwpled: Diau'r dasg na fedri di, Yn d'egwyl, fydd diogi.1 Dyma eiriau y gellid yn hawdd eu defnyddio wrth gyfeirio at awdur y cyfrolau hyn. Y mae'r Dr Emyr Wyn Jones yn perthyn i'r cwmni dethol hwnnw o Gymry dawnus a fenthyciwyd i Gyfadran Feddygol Prifysgol Lerpwl, ond nad anghofiodd am y graig y'u naddwyd hwy ohoni. At hynny, y mae ef yn llenor adnabyddus ac yn awdur toreithiog. Rhai blynyddoedd yn ôl, wrth i mi ei gyflwyno i un o enwogion eraill y Gymdeithas Feddygol yn un o'r cynhadleddau fe'm synnwyd gan i'r gwr hwnnw ddweud wrtho, 'Wrth gwrs, rydw i'n gyfarwydd iawn â'ch cyhoeddiadau yn y cylchgronau meddygol Saesneg'. Er fy mod yn gwybod am ei waith fel ffisigwr a chardiolegydd, gan mor adnabyddus oedd ei gyhoeddiadau Cymraeg i mi, nid oedd maint ei gyfraniad i'r cyfeiriad arall hwnnw erioed wedi fy nharo. Gyda chyhoeddi'r gweithiau a adolygir yma, ychwanegodd at y ddyled sydd arnom iddo. (Er nad oes a wnelo hyn yn uniongyrchol â'r pynciau a drafodir yma, rhaid tynnu sylw at beth o'i waith blaenorol. I'r sawl a fydd â diddordeb yng nghynnwys y llyfr cyntaf, cyhoeddodd y Dr Jones waith sydd yn ymwneud â lle gwragedd mewn meddygaeth. Yn ddiweddarach, bu'n cloriannu hynt a helynt bywyd un o deulu gwraig H.M. Stanley, sef Mam o Nedd.) Lloffa yn Llŷn: Yn y bennod am 'feddyges Bryn Canaid, Aberdaron', ceir atgofion am faes llafur gwraig a wnâi waith meddygol yn ystod y ddeunawfed ganrif. Gwelir o'r rhagymadrodd rhagorol fod yr awdur yn gallu uniaethu ei hun â thrigolion gwerinaidd Llyn. O ganlyniad, y mae'n osgoi'r duedd a welir yng ngwaith rhai haneswyr meddygol i ddilorni iachawyr cefn gwlad. (Yn wir, er na ddywed hynny, gellid tybio nad yw'r awdur ond yn rhy falch i gyfaddef fod cysylltiad teuluol — pell — rhyngddo ef a'r feddyges.) Fel y gwyddys, y mae dogfennau sydd yn cofnodi gwaith o'r math hwn yn brin yng Nghymru, a chred yr awdur (t.28) na ddarganfuwyd dim cyffelyb ym Mhen Llyn o'r blaen. Felly, gwnaeth ef gymwynas fawr â'r sawl sydd â diddordeb yn y maes wrth sicrhau fod cynulleidfa ehangach yn cael cyfle i