Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

ymdrech i geisio cymhwyso egwyddorion seicdreiddiaeth i hanes, gan lawer o haneswyr.4 Llwyddodd awdur y gyfrol hon i gyflwyno'r dechneg hon mewn ffordd apelgar. Dylai'r llyfr hwn hawlio lle ar silffoedd llawer o aelodau'r gymdeithas. Hoffwn orffen â chyffes. Rhaid i mi gyfaddef mai un o'm cas bethau yw adolygu llyfrau pobl eraill (dywedaf hyn gan obeithio fod y golygydd hynaws yn mynd i ddarllen hyn o eiriau!). Ond wedi dweud hynny, cefais gymaint o bleser wrth ddarllen y gyfrol gyntaf, ac ailddarllen y llall, nes i hynny gael gwared o'r teimladau o ddiflastod hynny a all fy ngoresgyn wrth i mi orfod wynebu'r fath orchwyl. Felly, i grynhoi, rhaid llongyfarch Emyr Feddyg ar gynhyrchu dwy gyfrol mor ddeniadol, a chanmol Gwasg Gee am gadw at ei safonau uchel arferol. Wrth feddwl am aml gymwynasau a hynawsedd yr awdur oddi ar yr amser pan dderbyniodd â chryn lawenydd, mi wn y gwahoddiad i weithredu fel llywydd cyntaf y gymdeithas, ni fyddai'n anaddas gorffen hyn o werthfawrogiad gyda rhai o eiriau T. Gwynn Jones i Ddafydd ab Edmwnd, 'Garuauidd dad melysaf breugerdd dyn, a didlawd feistr ein delediwaf iaith fel osai pêr diferai dros dy fin '5 Cyfeiriadau: 1. Bardos, gol. R. Geraint Gruffydd, (Caerdydd 1982) t.vii. 2. D.T. Jones, Y Llysieulyfr Teuluaidd, (Dolgellau), dim dyddiad. 3. E. Slater & M. Woodside, Patterns of Marriage" (Llundain, 1951). 4. David E. Stennard, Shrinking History: on Freud and the failure of psychohistory, (Rhydychen, 1980), t.xii ff. 5. T. Gwynn Jones, Manion, (Caerdydd, 1930), t.38.