Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Un arall a ganodd ei glodydd pan oedd yn Faer Dinbych yn y flwyddyn 1870 oedd Glanmor. Canodd iddo am ei waith fel Meddyg,Ynad Meddwch,Crwner ,Cymro pybyr, Cristion a Maer. "Mewn bri mae'n gweini i'r gwan Dolurus, heb dâl arian". Dengys yr uchod nad meddyg cyffredin oedd Dr Evan Pierce. Yn wir roedd yn wr cwbl anghyffredin a roes wasanaeth dihafal i Ddinbych am oes gyfan. Hogyn o'r wlad oedd Evan Pierce wedi ei eni yn Bryn, Prion ger Dinbych ar Ddydd Gwyl Dewi,1808. Fe'i magwyd ym Mhlas Meifod, Henllan Amaethwr oedd ei dad, Thomas Pierce, a'i fam, Mary Pierce, yn flaenllaw