Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Nodiadau golygyddol Yn gyntaf, rhaid i mi ddiolch yn gynnes ar ran Y Gymdeithas Feddygol i'm rhagflaenydd, y Dr Edward Davies, am ei holl lafur ar ein rhan. Bu ei arweiniad a'i barodrwydd i gynorthwyo'r sawl a ofynnodd am ei gymorth yn destun edmygedd i lawer. Yr ydym yn prysur nesáu at fileniwm newydd, ac wrth gyflwyno cyfrol arall o'n cylchgrawn, efallai na fyddai'n amhriodol edrych yn ôl dros ysgwydd y blynyddoedd a holi rhyw ychydig am natur y graig y'n naddwyd ni ohoni. Nid oes rhaid myfyrio'n hir uwchben y pwnc cyn sylweddoli cymaint yw'n dyled i'n rhagflaenwyr. Eleni, yr ydym yn dathlu daucanmlwyddiant cyhoeddiad syfrdanol cyntaf Edward Jenner ynglŷn â brechu yn erbyn y frech wen, a arweiniodd at greu'r wyddor newydd o feddygaeth ataliol. Ganrif a hanner i'r llynedd, defnyddiwyd anesthetegau am y tro cyntaf erioed yng Nghymru, rhai wythnosau yn unig ar ôl i Robert Liston wneud hynny yn Llundain. A hanner canrif i eleni, dechreuwyd ar waith y Gwasanaeth Iechyd Cenedlaethol. Wrth dalu teyrnged i David Uoyd George ac Aneurin Bevan, rhaid cofio hefyd am waith y Sais, William Beveridge. Braidd y llefarwyd gwrthfynegiad mwy eithriadol erioed na hwnnw a ddywedwyd gan Beveridge wrth iddo sylwi ar yr hyn a'i gwnaeth yn ymwybodol o'r angen am newidiadau yn y gyfundrefn gymdeithasol a oedd yn bod yn ystod ei ieuenctid. Eglurodd fod Meistr Coleg Balliol, Rhydychen (un o ganolfannau moethusrwydd y dosbarthiadau breintiedig ar y pryd) wedi herio israddedigion y coleg i geisio darganfod paham yr oedd cymaint o dlodi yn bod ymhlith cymaint o gyfoeth. Ond ffolineb o'r mwyaf fyddai tybio fod pob cam ymlaen yn y maes hwn wedi digwydd o fewn cof dyn. Bu gan Gymry eu rhan yn y newidiadau a osododd sylfeini'r feddygaeth newydd yr ydym ni yn gyfarwydd â hi. Ofer fyddai ceisio enwi ond cyfran o'r sawl a gyfrannodd i'r maes, ond ar amrantiad, daw enwau gwŷr fel Syr Thomas Lewis, y Dr Ernest Jones a Syr John WiUiams (a wnaeth llawer yn fwy na gweithredu fel obstetregydd brenhinol a chynorthwyo ar esgor ein Llyfrgell Genedlaethol) a'r obstetregydd arall hwnnw, David Davis, i'r cof. Nac anghofier, ychwaith, mai dyna'r cyfnod pan enillodd wragedd yr hawl i raddio fel meddygon. A gallwn gofio â rhyw gymaint o falchder yn y cyswllt hwn, i Brifysgol Cymru, a grëwyd yn y 1890au, benderfynu o'r cychwyn fod gan fenywod yr un hawl i'w breintiau hi a roddwyd i ddynion. Rhaid peidio ag anghofio am y Uu o feddygon na cheir eu