Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

AGENDA'R DYSTIOLAETH AR GYFER IECHYD A GOFAL CYMDETTHASOL YNG NGHYMRU: YR ANGEN AM DYSTIOLAETH AM EFFETTfflOLRWYDD AC EFFETTHLONRWYDD Richard H.T.Edwarda Yn y flwyddyn 1864, pwysleisiodd un o arloeswyr meddygaeth wyddonol, Claude Bernard, fod y gwahaniaetlv rhwng "profiad' ac 'arbrawf' yn hollbwysig mewn ymchwil.1 Ar y pryd, profiad clinigol oedd sail unrhyw ddatblygiadau, ac yr oedd arbrofion yn anghyffredin er bod ambell un, fel defnydd Edward Jenner o'r cwpog i frechu yn erbyn y frech wen, yn eithriad hynod. Y mae profiad yn bwysig o safbwynt datblygiad proffesiynol ond wrth ddefnyddio arbrofion, fe ddaw newid hanfodol i gyfeiriad gwyddoniaeth a meddygaeth. Gwelodd y ganrif hon y datblygiadau cyflymaf a ddigwyddodd erioed ym meysydd gofal iechyd a gofal cymdeithasol, ond y mae adnoddau'n gyson yn gyfyngedig. Ar y llaw arall, yn dilyn y newidiadau a digwyddodd mewn meddygaeth a thechnoleg, y mae disgwyliadau'r cyhoedd yn cynyddu fel y gwnaeth disgwyliad einioes (life expectancy) gyda'r gofynion am ofal a ddaw yn ei sgîl. Yn y chwe blynedd diwethaf, y mae'r llywodraeth wedi rhyddhau adnoddau i'r Rhaglen Ymchwil a Datblygu gyda'r nod o greu corff o dystiolaeth ar gyfer gwneud penderfyniadau clinigol a pholisi gofal iechyd. Y mae'r vbuddsoddiad hwn yn y dyfodol' yn fwy na menter 'oddi uchod i lawr' i orfodi newid yn y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (GIG). Yn bwysicach, y mae'n nodweddiadol o duedd gynyddol trwy'r byd gorllewinol sydd yn cynnwys systemau gofal iechyd pur wahanol i'w gilydd. Er iddo gyrraedd yn hwyr, y mae'n cynnig cyfle i'r galwedigaethau gofal ddylanwadu ar eu tynged eu hunain, gan wella safonau gofal 'o'r gwaelod i fyny'. Bydd hyn yn seiliedig yn gyntaf ar awdit o'r hyn a wneir (profiad) wedi ei gyplysu â buddsoddiad mewn ymchwil gwasanaethau iechyd er mwyn ceisio darganfod pa driniaethau yw'r goreuon sydd ar gael. Dangosir y berthynas rhwng 'awdit', y Tenter Effeithiolrwydd Clinigol' (C.E.S.U.) a'r strategaeth ar gyfer Ymchwil a Datblygu yn Ffigwr