Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

CYMUNEDAU DROS IECHYD GWELL Wayne Griffiths Ym mis Ionawr 1997, ffurfiwyd cynghrair er mwyn ceisio datblygu strategaethau effeithiol i hybu cymunedau egnïol, iach a deinamig yn y fro sydd o dan sylw. Y partneriaid sydd yng nghlwm wrth y fenter hon yw meddygfeydd Pen-y-groes a Cross Hands, sir Gaerfyrddin, Mudiad Hybu Iechyd Cymru, Ymddiriedolaeth y Gwasanaeth Iechyd Cenedlaethol (GIC) Llanelli Dinefwr, Menter Cwm Gwendraeth a Choleg y Drindod, Caerfyrddin. Y mae'r pedwar cyntaf yn gweithredu fel asiantau ariannu'r prosiect. Y mae Sefydliad Iechyd y Byd wedi diffinio iechyd fel cyflwr o ffyniant llwyr yn gorfforol, yn feddyliol ac yn gymdeithasol, gan bwysleisio ei fod yn golygu mwy na bod yn rhydd o afiechyd neu lesgedd. Er mwyn cael ei ystyried yn wirioneddol iachus, dylai'r unigolyn fod mewn cydbwysedd â'i amgylchedd, â'r corff dynol yn gweithredu'n effeithlon ac yn effeithiol, gan beri mwynhad i'r unigolyn. Newid er gwell Nid yw newid yn debyg i'r hyn a oedd yn arfer bod; y mae wedi cyflymu i'r fath raddau fel nad oes batrymau iddo mwyach. Y mae newid yn sylfaenol, yn ddamweiniol ac yn ysbeidiol, sydd yn ei wneud yn llai cysurus [i'w oddef]. Charles Handy. .Os rhowch froga mewn llestr o ddÛJr a'i gynhesu'n araf, ni sylwa'r broga ar y cynnydd graddol mewn tymheredd tan iddo yn y diwedd oddef cael ei ferwi'n fyw. Mae'r Gwasanaeth Iechyd Cenedlaethol wedi ei ddiwygio yn ddramatig o ganlyniad i'r newidiadau deddfwriaethol a ddaeth i rym dros y pum mlynedd diwethaf. Hanfod y symudiadau hyn yw'r bwriad i greu gwasanaeth sydd yn rhoi gwerth am arian, sydd yn atebol i'r defnyddiwr ac sydd yn ddigon hyblyg i gwrdd ag anghenion newidiol yr ugeinfed ganrif. I gyfarfod â galwadau'r diwylliant newidiol, tyfodd system reolaeth i ymdopi â'r trawsffurfio sylfaenol a ddigwyddodd yn athroniaeth gofal. Caiff GIC ar ei newydd wedd ei lywio gan ofal cynradd, a'r gofal hwnnw wedi ei leoli yng nghartrefi neu yn agos i gartrefi cleifion, mewn Ileoliad llai a mwy vcyfeiUgar' o ran y defnyddiwr. Rhaid i unrhyw fodel