Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

MEDDYGAETH YN FFOREST-FACH Dai Lloyd Cofnod o newidiadau yn fy ngwaith bob dydd oedd y cyflwyniad hwn a draddodwyd yng nghynhadledd y Gymdeithas Feddygol yng Nghaerfyrddin yn 1997. Cofnod meddyg teulu a oedd yn ymateb mewn ffordd ymarferol i bwysau gwaith. Nid oedd gennyf ddim byd anghyffredin nac anarferol, nac unrhyw waith ymchwil uchelgeisiol o ryw vdŵr ifori' anghysbell dim ond ymateb ymarferol dau bractis Fforest-fach i argyfwng gorweithio. Yr wyf yn feddyg teulu yn un o wardiau etholiadol mwyaf difreintiedig Cymru, yn Abertawe, sydd yn cynnwys ardaloedd Blaen-y-maes, Penlan a Townhill a'u stadau cyngor diderfyn. Yma, ceir canran uchel o rieni sengl, diweithdra, a graddau echrydus o ddefnyddio cyffuriau, o gam- drin plant, o dor-priodas ac o ddwyn ceir. Nid oes dim byd yn anghyffredin yn hyn o beth dyma broblemau cynyddol ein gwlad. A thra oeddwn yn gweld rhwng deugain a hanner cant o gleifion bob dydd yn y feddygfa, gyda'r nos pan oeddwn ar alwad dros y ddau bractis (rota 1:6), byddwn yn derbyn rhwng pedair a chwe galwad cyn deg o'r gloch y nos, a phedair o alwadau nos wedi deg o'r gloch ar gyfartaledd. Yr oedd hyn yn golygu fod tua 204 o alwadau nos (ar ôl 10 o'r gloch yn unig) bob blwyddyn pan oeddwn i fy hunan ar alwad. Eto, nid yw hyn yn anghyffredin dim ond nodi'r ffigyrau wrth basio ydwyf a bydd pob meddyg teulu yn gwybod am orfod delio efo llif o fân broblemau tra bydd yn hanner cysgu, ac yn gobeithio nad ydyw wedi methu â gweld unrhyw arwyddion pwysig! Clustnodwyd y gorweithio hwn fel y prif reswm am unrhyw danseilio i'n morale o ran ein gwaith. A'r rheswm arall oedd cyflwr y man Ue'r oeddem yn gweithio, sef yr hen ganolfan iechyd. Felly, yr ymateb ymarferol cyntaf oedd y byddai'n rhaid newid yr adeilad. Cawsom ganiatâd i brynu'r hen ganolfan iechyd (fe fuom yn denantiaid yno am flynyddoedd) ar yr amod ein bod hefyd yn dal ein cyllid ein hunain. Fe ddangoswyd sleidiau yng Nghaerfyrddin a oedd yn olrhain tair blynedd o hanes o dorri'r hen adeilad i lawr a chodi adeilad newydd, megis fel 'Ffenics' o'r hen adfeilion ar yr un safle. Gellir dychmygu'r amodau gwaith ar yr adeg yma, gyda'r Ilwch a'r baw, y peiriannau aflafar, y cwmni adeiladwyr yn mynd i'r wal, a phobl yn dal ag angen eu 'repeats' a'u cyngor a'r cyfan oll yn gwau i'w gilydd ac yn gyfrifol am ddyddiau diddorol, cymysglyd, a oedd yn Ilawn ansicrwydd! Ond o'r diwedd,