Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

dyma ni mewn adeilad gwerth dros filiwn o bunnoedd, a'r ysbryd wedi codi! Bu ail ymateb ymarferol Fforest-fach i'r galwadau nos yn haws i'w drefnu, gan ei fod yn rhan o newid cenedlaethol. Bu newid yn y rheolau. Fe ŵyr pawb am y pwysau cynyddol a oedd ar feddygon teulu. Daeth newid yn y tâl, daeth meddygfeydd nos, a meddygon yn gweithio'n gydweithredol (i'r Co-ops newydd). Codwyd statws y meddyg dirprwyol, ac yr oedd ef/hi yn derbyn yr un tâl am alwad nos a'r meddyg teulu ei hun. Yng nghlwm wrth hyn, daeth pwysau cynyddol i newid ymddygiad: newid ymddygiad y cyhoedd, a hefyd, newid ymddygiad y meddygon eu hunain. Y mae llai na chwarter o'r ceisiadau ar ôl chwech o'r gloch y nos yn awr yn cael galwad i'r ty y mae pobl yn awr yn mynd i'r meddygfeydd nos newydd yn Abertawe, neu yn derbyn cyngor ar y ffôn yn unig. Yn ei ffordd, y mae hyn wedi gwneud y gwaith o leihau'r galwadau dydd yn haws, gan mai yr un yw'r broses yn awr. Yr ydym ni fel meddygon wedi dysgu sut i ddweud 'NA', yn neis, yn dosturiol, gyda chyngor o'r galon, ond hefyd dweud 'NA' pan fo'r galw. Y Ueihad sylweddol yn y galwadau i dai pobl yw'r cyfraniad pwysicaf i godi ysbryd y meddyg teulu, yn ein tyb ni yn Fforest-fach. Cyfraniad sylweddol arall sydd wedi'n cadw yn ffresh at y gwaith o helpu'n cleifion yw datblygu diddordebau eraill. Eto, nid yw hwn yn syniad ysgytwol na newydd, ond y mae'n hynod effeithiol. Y mae angen gwneud pethau hollol wahanol, y tu allan i'r gwaith, sydd hefyd yn ddigon cryf eu heffaith i gau allan y gwaith, er mwyn cadw'r amrywiaeth a'r ffresni yn ein bywydau proffesiynol. Dyna ddigon o draethu, dim ymchwil ddofn, dim rhestrau diderfyn o gyfeiriadau, dim syniadau newydd, dim sefyllfaoedd anghyffredin, dim ond ymateb ymarferol. Cyfres o ymatebion ymarferol fu meddygaeth yn Fforest-fach erioed, ond dengys profiad a'r parodrwydd i newid beth y gellir ei gyflawni yn wyneb problemau di-rif. DDOE, NI DDYCHWEL. Yn 1877, cafwyd tanchwa ym mhwll glo'r Worcester, Fforest-fach. Er cymaint ymdrechion y Dr David Howell Thomas (1841-1921) i ymateb i'r argyfwng, bu farw 19 o ddynion. Gweler tudalen 46 am enghraifft arall o argyfwng tebyg heb fod ymhell o'r ardal Ue y mae'r Dr Lloyd yn gweithio, pan fu'r canlyniadau yn well 0 lawer. T. G. Davies, Bywgraffiadur Meddygol tref Abertawe (i'w gyhoeddi).