Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

DIAGNOSIS GWAHANIAETHOL POEN YN Y PEN Robert J. Jones Y mae bron pob cyflwr yn y pen yn gysylltiedig â phoen, ac ni ellir ond cynnig crynodeb yn y papur hwn. Y mae diagnosis a thriniaeth poen genauwynebol yn cael ei gymhlethu gan nifer helaeth o ffurfiannau anatomegol yn yr ardal, dulliau cyfeirio poen, a'r arwyddocâd seicolegol sydd yn perthyn i'r wyneb a cheudod y genau. Y poen mwyaf cyffredin a geir yn yr ardal enauwynebol yw hwnnw sydd yn tarddu o'r dannedd a'u sylfeini. Y mae hwn yn gallu bod yn llym iawn, gan effeithio ar y claf, y teulu a chymdeithas yn gyffredinol. Amcangyfrifwyd gan Mumford fod tua phum miliwn o ddyddiau gwaith a miliwn o nosweithiau o gwsg yn cael eu colli am y rheswm hwn bob blwyddyn yng ngwledydd Prydain yn unig. Fel gweithwyr gofal iechyd, y mae arnom ddyletswydd nid yn unig i fod â gwybodaeth eang am gyflyrau'r pen, ond hefyd i edrych yn ddadansoddol ac i ymchwilio i gwynion y claf, trwy ofyn y cwestiynau priodol a gwneud cais am y profion priodol ychwanegol, ond yn bwysicaf oll, rhaid i ni wrando ar ein cleifion. Y mae poen yn peri i'r claf fynd at y meddyg neu'r deintydd yn gynharach na phan fo symptomau eraill yn digwydd. Fel rheol, y mae yn arwydd o niwed, ond nid ydyw afiechyd bob amser yn boenus. Y mae pydredd dannedd ac afiechyd periodontol yn enghreifftiau o hyn. Gellir cael gwaedu o'r feinwe gorchfannol (gingival tissue), blas drwg o'r pocedi periodontol a dannedd yn gwahanu oddi wrth ei gilydd wrth lacio oherwydd diffyg sylfeini, ond nid oes poen yn digwydd gyda'r cyflyrau hynny nes bod yr afiechyd yn ddrwg iawn. Y mae cancr hefyd yn gallu bod yn ddi-boen am beth amser. Ar y llaw arall, gall dannedd perffaith iach fod yn boenus, er enghraifft, gall hufen ie neu ddiod oer iawn greu cur pen blaenol trwy amharu ar y cylchrediad yn y daflod. Gall y cyffyrddiad ysgafnaf achosi poen erchyll ac arteithiol fel sydd yn digwydd gyda nerfboen trigeminol idiopathig (trigeminal neuralgia). Awgrymir hefyd fod poen nid yn unig yn arwydd o niwed i'r cnawd, ond y mae'n arwydd o faint y niwed hwnnw. Y mae mwy o boen yn gysylltiedig â chyflyrau llym, a llai â rhai hirfaith.