Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

CANCR Y PEN A'R GWDDF Gareth Williams Testun sydd yn amgylchynu pwnc anferth yw hwn, yn enwedig i un sydd yn arbenigo yn y math yma o waith. Y mae'n cynnwys cancr y ffaryncs, y laryncs, y geg, a'r chwarennau sydd yn y gwddf. Y mae gwahanol fathau a gancrau i'w gweld yn y safleoedd hyn, er enghraifft, lymphoma, melanoma, adenocarsinoma, ond y math mwyaf cyffredin o bell ffordd (>90%) yw'r math cennog. O safbwynt y ddarlith hon, yr wyf am ganolbwyntio ar y math cennog ac anwybyddu'r gweddill. O ran y claf, y mae llawdriniaeth, yn ogystal â'r cancr ei hun, yn y rhan hon o'r corff braidd yn annifyr, ac felly y mae effaith y llawdriniaeth weithiau yn eithaf arswydus. Y mae'r tyfiannau hyn yn cynnwys tua 4% o'r holl gancrau a welir. Yn ôl ystadegau iechyd Cymru am 1994, digwyddodd 286 achos o gancr y geg a'r ffaryncs trwy'r wlad. Y mae hyn yn cynnwys cancr y tafod, y tonsil, llawr y geg, y gwefusau a'r daflod feddal. Yn yr un cyfnod (1994), gwelwyd 135 o achosion o gancr y laryncs. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, y mae rhif yr ymgynghorwyr mewn gwahanol feysydd sydd yn arbenigo yn y pwnc yma wedi cynyddu. Erbyn heddiw, y mae llawfeddygon ENT, genol-wynebol a phlastig yn trin cleifion fel hyn. Y mae perygl i hyn wasgaru'r driniaeth a lleihau'r profiad sydd ar gael i unrhyw un ohonynt. Y mae'n bwysig i arbenigwyr yn y maes gyd-dynnu â'i gilydd. Yng Nghaerdydd, y mae pob claf yn cael ei weld mewn clinig arbenigol Ue y mae tîm o ymgynghorwyr, yn cynnwys arbenigwyr o fyd ENT, genol-wynebol, oncoleg a phlastig. Yn ogystal, y mae arbenigwyr ym meysydd llafar llais, dietegyddion, nyrsio (er enghraifft, nyrsys Macmillan) a glanweithwyr deintyddol. CANCR Y GEG Y mae'r rhan fwyaf o'r cleifion hyn naill ai yn ysmygu'n drwm neu yn yfed yn drwm. Nid oes dim cwestiwn fod ysmygu ac yfed alcohol yn cydweithio fel ffactorau yn y math yma o gancr. Serch hyn, y mae tua 25 30% o'r cleifion nad ydynt yn y categorìau hynny. Y mae'n amlwg felly fod gweithredyddion eraill yn bwysig, megis lichen planus, candida, cnoi cnau betel (yn Affrica a De-ddwyrain Asia) a diffyg fitaminau i gyd ar waith. Yn y gorffennol, yr oedd y poethglwyf (syphilis) yn ffactor pwysig arall.