Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

CYFLYRAU ANNORMAL YN Y GEG S. Quentin Jones Y mae'n fraint ac yn her cael bod yn bresennol yn y cyfarfod cyntaf rhwng y ddwy gymdeithas. Eisoes, fe gawsom ddarlith wych gan Mr Gareth Williams ar gancr yn y pen a'r gwddf, ac fe hoffwn i ddilyn gan ddatblygu'r un thema, ond o safbwynt a phersbectif gwahanol. Dywedir bod y llygaid yn borth neu yn ffenestr i'r enaid. Felly, beth, tybed, yw'r geg? Yn ôl y Tsieineaid, gellir dadansoddi iechyd y corff cyfan a phenderfynu ar driniaeth wrth edrych ar y geg yn unig, ac yn enwedig wrth archwilio'r tafod. Efallai na wyddom holl gyfrinachau'r Tsieineaid, ond gall cymryd hanes manwl ac archwilio'r geg fod o gymorth mawr yn y cyswllt hwn, ac yn bwysicach, y mae modd darganfod problemau yn gynnar cyn iddynt ddatblygu ymhellach. Rhaid holi beth yw natur y broblem a phaham y mae archwilio'r geg yn rhywbeth sydd mor anodd i'w wneud. Yn ôl y cyfryngau yn ddiweddar, dywedwyd gan rai aelodau o'r BMA fod y Gwasanaeth Iechyd Gwladol mewn cyflwr mor wael fel y gallai y bydd yn rhaid i feddygon teulu godi tâl ar gleifion am bob ymgynghoriad. Byddai hyn yn sicr o ymyrryd â gwaith meddygon, gan beri na fyddai rhai cleifion yn gofyn am gymorth pan fyddai angen gwneud hynny arnynt. (Y mae'r sefyllfa ddamcaniaethol hon wedi bod yn realiti i ddeintyddion am gryn amser, ond yn enwedig yn ddiweddar.) Efallai fod hyn yn un o'r rhesymau paham nad oes ond pum deg y cant o'r boblogaeth yn ymweld â'r deintydd yn rheolaidd. Y prif reswm arall, wrth gwrs, yw ofn. Gallai fod mai gorfod cael triniaeth annymunol oherwydd pydredd yn y dannedd yn ystod plentyndod sydd yn gyfrifol am hynny. Y mae gormod o blant mor ifanc â phedair oed yn colli eu holl ddannedd cyntaf o ganlyniad i bydredd, ac yn gorfod cael anesthetig cyffredinol. Y mae'r math hwn o erchylltra yn digwydd yn wythnosol ar hyd a lled Cymru a buasai atal y broblem yn well 0 lawer na'i drin. Felly, nid ydyw'n rhyfeddod fod cyfran helaeth o'r boblogaeth, yn enwedig y rhai nad ydynt yn fodlon cael hyd yn oed archwiliad, heb sôn am driniaeth, yn gleifion ^coll' nad ydynt ond yn dod at y deintydd neu'r meddyg pan fydd hi'n argyfwng arnynt. Ac wrth gwrs, os gadewir y broblem tan ei bod hi'n argyfwng, yr ydym yn colli'r ras i'w datrys-. Rhaid pwysleisio'r pwysigrwydd o ddal clefydau yn gynnar a'r fantais arbennig a gaiff ymarferwyr meddygol neu ddeintyddol o weld cyflyrau wrth i'r niwed ddechrau, er mwyn eu cyfeirio at arbenigwyr fel Mr