Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

bwysig yn y cyswllt hwn, a gall arferion sydd yn perthyn i rai diwylliannau estron (megis cnoi betel yn rhannau o dde Asia ac India'r Dwyrain a quat yn Yemen, neu ddefnyddio snisin yn arbennig yng ngwledydd Llychlyn a defnyddio scoal bandits) fod yn niweidiol. Yn anffodus, y mae'r cwmnïau baco aml-genedlaethol yn anelu eu nwyddau at wledydd sydd yn datblygu. Y mae'n rhaid cofio fod Nicorette yn cynnwys nicotîn, cemegyn a allai fod yn niweidiol o'i roi yn y geg. 2. Alcohol: Y mae mwy o bobl ifainc yn yfed alcohol mewn gwledydd eraill, er enghraifft, Ffrainc a Denmarc, ac y mae mwy o gancr y geg a'r gwddf yn digwydd yno, fel y pwysleisiwyd gan y darlithydd blaenorol. 3. Ymbelydredd uwchfioled: Y mae hwn yn gallu effeithio'n andwyol ar y gwefusau a'r wyneb. 4. Heintiau candida: Y mae'r rhain yn gyffredin dros ben, ac y maent yn bod yng nghegau pawb i ryw raddau. Gyda rhai cleifion, y maent yn rhybudd o afiechyd o wahanol raddau. Y mae stomatitis yn gysylltiedig â dannedd gosod yn cael ei achosi gan candida, bron yn ddieithriad. Y mae'r ensymau a gynhyrchir gan candida yn gallu cynhyrchu cemegau carsinogenaidd. 5. Heintiau gan firws: Y mae cryn dipyn o dystiolaeth ar gael yn y llenyddiaeth am effeithiau gwahanol firysau fel ffactor etiolegol mewn cancr. Y mae sawl firws wedi cael ei ddrwgdybio ac y mae'r rheithgor allan ar hyn o bryd! 6. Trawma cronig: Y mae trawma cronig, gorgeratinedd (hyperkeratosis) a gordyfiant papilâu yn gyffredin iawn o dan ddannedd gosod sydd yn hen neu mewn cyflwr gwael. Felly, gyda'r ffactorau uchod, y mae'n bosibl fod trawma yn chwarae rhan yn etioleg y cyflwr. 7. Ffactorau eraill: Credir gan rai gweithwyr yn y maes fod mwy nag un ffactor yn cydweithio yn gyfrifol am ddatblygu'r cyflwr. Y mae'r cyfuniad o wres a thybaco ymhlith y rhain, ac fe geir lefelau uchel o gancr y geg mewn gwledydd lle yr yfir gormodedd o ddiodydd poeth neu ferw. 8. Bwyd: Y mae'r sawl sydd yn derbyn cyflenwad o fitaminau ac yn bwyta ffrwythau a llysiau ffres yn llai tebyg o ddioddef o'r cyflwr. Lleoliad y cancr: Carsinoma'r celloedd cennog (squamous cell carcinoma) sydd yn digwydd gan amlaf. Y mannau mwyaf cyffredin yw ochr isaf y tafod a gwaelod y geg. Wedi hynny, effeithir ar y daflod feddal a'r ffaryncs, ond gall ddigwydd mewn mannau eraill yn ogystal. Felly, rhaid gwylio am sawl cyflwr: lewcoplacia (sef, ardal wen a chryno yn y geg na ellir cael gwared ohoni yn rhwydd), erythroplacia,