Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

ATAL CROES-HEINTIO YN Y DDEINTYDDFA Gareth Lloyd Y mae Ilawer wedi newid yn y maes hwn yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Y prif ddylanwad a fu ar waith yw'r cyhoeddusrwydd a roddwyd i bwnc croes-heintio, a gofynion y claf yn sgîl problemau AIDS a hepatitis. Er mai am ddeintyddiaeth y mae'r erthygl hon, y mae llawer mwy o driniaethau yn cael eu gwneud yn y feddygfa, ac y mae Ilawer o'r sylwadau hyn yn berthnasol o ran byd meddygaeth. Yn anffodus, neu hwyrach yn ffodus, y mae'r rhan fwyaf o'r boblogaeth yn anwybodus am groes-heintio a glanweithdra, ac y mae'r rhan fwyaf o gleifion yn mesur glanweithdra yn ôl safonau sydd yn gwbl amherthnasol, fel taclusrwydd yr ystafell aros neu'r olwg sydd ar y drinfa a'r staff. Oherwydd hyn, y mae'r proffesiwn wedi gorfod cymryd ar ei hunan holl bryderon y cyhoedd, ac nid yw yn ddigon i weithio mewn modd sydd yn atal croes-heintio yn unig, ond y mae'n rhaid gweithio mewn ffordd sydd yn ymddangos i'r claf ei fod yn atal croes-heintio. Felly, y mae'n bwysig fod cyflwr y drinfa ac ymddangosiad y staff yn rhoi'r argraff i'r claf ei fod mewn awyrgylch Ue y rhoddir pwyslais arbennig ar lanweithdra ac atal croes-heintio. Gall cleifion farnu drostynt eu hunain os yw'r lle yn ymddangos yn lân neu beidio, ond er mwyn gwneud yn siwr fod bopeth yn cael ei wneud yn iawn, y mae'r Awdurdodau Iechyd yn archwilio pob trinfa ddeintyddol ac y mae atal croes-heintio yn mynnu Ue blaenllaw yn yr archwiliadau hyn. Y mae canllawiau yn cael eu cyhoeddi o bryd i'w gilydd gan y Gymdeithasfa Ddeintyddol Brydeinig, ac y mae'n rhaid i staff pob deintyddfa ddangos eu bod yn cyrraedd y safon y gofynnir amdano. Cyn mynd ymlaen i drafod atal croes-heintio, fe ddylem atgoffa ein hunain o'r math o bethau yr ydym yn ceisio eu hatal. Yr ydym i gyd yn cofio am bethau fel HIV, llid yr iau a herpes, ond y mae'n rhaid cofio hefyd am yr holl firysau, bacteria a ffyngau sydd yn gallu cael eu trosglwyddo, ac y mae'n rhaid darparu ar gyfer atal y cwbl ohonynt. Y mae firws HIV yn eithaf hawdd i'w ddinistrio o'i gymharu â rhai o'r afiechydon eraill a welir, ond yn ddiweddar mae'r mycobacterium tuberculosis wedi dod i'r amlwg eto, ac y mae hwn yn un o'r pethau mwyaf anodd i'w ddinistrio. Hefyd, y mae'n rhaid cofio ein bod am atal croes-heintio o un claf i'r Hall, a rhwng gweithwyr yn y gwasanaeth a'r