Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

HEPATITIS David Owens Mae'n bosibl i nifer o wahanol ffactorau achosi llid yn yr iau. Gall cyffuriau fel halothane, isoniazid, methyldopa ac eraill wneud hyn, ac yn aml iawn y dyddiau hyn, mae alcohol yn gyfrifol. Fel arfer, pan sonnir am lid yr iau, achosion firol sydd yn dod i'r meddwl gyntaf ac erbyn hyn mae amryw firysau wedi eu darganfod sydd yn canolbwyntio ar yr iau. Mae firysau fel firws Epstein-Barr, twymyn felen Lassa ac Ebola yn achosi afiechyd sy'n effeithio ar y corff yn gyffredinol a dim ond rhan fechan o'r salwch hwn yw llid yr iau. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae amryw o firysau penodol wedi eu hadnabod ac enwir hwy fel firws hepatitis A, B, C, D, E, a G. Efallai yn y dyfodol, efo'r dechnoleg newydd ym myd bioleg, bydd rhagor o firysau cyffelyb yn dod i'r amlwg. Wedi'r cwbl, nid oedd hepatitis C wedi ei ddisgrifio'n fanwl cyn 1989 a'r datblygiadau newydd ym maes bioleg y celloedd sydd yn fwyaf cyfrifol am hyn (gweler Tabl 1). Pan fydd y firysau hyn yn cyrraedd y corff, mae amryw ganlyniadau yn bosibl ac mae hyn yn dibynnu ar ba fath o firws sy'n bresennol, faint ohono sydd wedi cyrraedd y corff a hefyd statws imiwn yr unigolyn. Ar adegau, nid yw'r firws yn cael cyfle i sefydlu yn yr iau am fod gwrthgorffynnau (antibodies) yn bresennol yn y gwaed sydd yn rhwystro tyfiant y firws. Pan fo'r gwrthgorffynnau yn absennol mae'r firws wedyn yn rhydd i ddatblygu yn yr iau, ond yn aml, nid oes dim symptomau'n bresennol. Ar adegau eraill, bydd salwch anneilltuol (non-specific disease) tebyg i annwyd trwm neu'r ffliw yn bresennol, ond pan fydd y salwch clasurol yn bodoli, nid oes dim anhawster bryd hwnnw ynglyn â'r diagnosis. Y symptomau clasurol wrth gwrs yw anorecsia, gwayw dros yr iau, cyfog, cosi yn y croen a chlefyd melyn (gweler Tabl 2). Pan fo'r salwch clasurol yn bresennol, fel rheol mae'r clwy melyn yn parhau am ryw ddeg diwrnod i bythefnos, wedyn yn diflannu, ac ar ôl cyfnod o ychydig wythnosau, pan fo'r claf efallai yn teimlo'n ddinerth ac yn wan, y mae'r broblem yn diflannu yn gyfan gwbl, ac yn y sefyllfa hon nid yw salwch cronig yn yr iau yn debygol o godi. Yn anffodus, nid yw'r patrwm fel hyn bob amser. Ambell waith, mae'r claf yn dirywio'n gyflym, mae'r lliw melyn yn dyfnhau ac mae'r claf yn llithro'n sydyn i goma a heb driniaeth fel trawsblannu'r iau, mae'n debygol o farw. Mae'n anffodus hefyd fod rhai pobl, yn enwedig y rhai sy'n dioddef o un ai