Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

hepatitis A a B ond yn gymharol anghyffredin, sefyllfa sydd yn wahanol i'r hyn a welir mewn lleoedd eraill yn y byd fel Canolbarth Affrica a'r Dwyrain Pell. Ond yn anffodus, ar ôl gweld cynnydd sylweddol yn y nifer o bobl sydd yn y wlad hon yn dioddef o'r heintiau hyn, yr ydym yn debygol o weld newid mawr yn nifer y cleifion a welwn yn y dyfodol yn dioddef o sirosis a hepatoma. Mae'n amlwg fod y sefyllfa bresennol yn achosi pryder tuag at y dyfodol a chawn obeithio y bydd newid yn agwedd pobl ifainc ynglŷn â chamddefnyddio cyffuriau, ac efallai y bydd gwleidyddion y wlad yn sylweddoli y buasai imwneiddio pobl Prydain yn erbyn hepatitis B yn mynd rhywfaint o'r ffordd tuag at ddatrys y broblem. Symptomau ac arwyddion: Hepatitis firysau Hepatitis A, B, C, D, E CMV Y dwymyn felen Epstein-Barr Lassa Ebola Marburg Tabl 1. 1. Dim awydd bwyd 2. Cyfog 3. Gwres 4. Gwayw 5. Cyhyrboen (myalgia) 6. Gwendid 7. Cur yn y pen 8. Clefyd melyn Tab12.