Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

DATBLYGIADAU DIWEDDAR YM MAES UWCHSAIN CYNESGOR Philip Owen Digwyddodd chwyldro ym maes gofal a diagnosis cynesgor wrth i'r defnydd o dechneg uwchsain ledaenu. Fe'i defnyddir ym mhob achos o feichiogrwydd sy'n cael ei drin yn y Gwasanaeth Iechyd er mwyn cyfrif hyd y cyfnod beichiogi, dod o hyd i annormaleddau yn y ffetws a hwyluso dulliau diagnostig a therapiwtig ymyrgar (invasive diagnostic and therapeutic procedures). Yn ddiweddar, daethpwyd o hyd i ffordd newydd o ddarganfod achosion o feichiogrwydd lle y mae syndrôm Down yn digwydd, wrth ddefnyddio uwchsain confensiynol ynghyd ag astudiaeth fanylach patrymau llif y gwaed yn y fam a'r ffetws wrth ddefnyddio uwchsain Doppler. Ar hyn o bryd, er mwyn ysgrinio ar gyfer syndrôm Down, rhaid cyfrif maint y gonadotrophin corionaidd dynol (HCG) a'r AFB (a-foetoprotein) yn y serwm. Ynghyd ag oed y fam, y mae'r prawf hwn yn rhoi ateb cywir yn 60-70% o achosion. Gellir atgynhyrchu'r mesuriadau tryleuder gwegilog (TG) (nuchal translucency) hynny sydd yn fwy na'r normal pan fo annormaleddau cromosomaidd yn bod, yn arbennig yn achos syndrôm Down. Tra bo mesuriadau TG yn gorgyffwrdd rhwng beichiogrwydd anewploid a beichiogrwydd normal o ran cyfansoddiad cromosomaidd y plentyn, y mae cyfuniad o fesuriadau TG a wneir yn ystod 10-14 wythnos y beichiogrwydd ac oedran y fam rhyngddynt yn sensitif mewn 80-90% wrth chwilio am syndrôm Down. Y mae hyn yn wellhad sylweddol o'i gymharu â'r technegau confensiynol. Bydd angen rhagor o astudiaethau er mwyn mesur gwerth TG fel prawf ysgrinio ymhlith y boblogaeth yn gyffredinol, a gan eu cyfuno â nodwyr biocemegol (biochemical markers). Y mae techneg Doppler lliw yn dibynnu ar egwyddor Doppler dychlamol (pulsed) ynghyd â mapio llif lliw. Trwy hyn, gellir archwilio llif gwaed rhydwefiau croth y fam ynghyd â chylchrediadau'r bogail a rhydwefiau'r ffetws. Gyda rhwng 2 a 4% o wragedd beichiog (ffigwr 1) ceir rhicyn (notch) diastolig sydd yn parhau ar ôl 23 wythnos yn y beichiogrwydd. Credir bod y rhicyn hwn yn gyfystyr ag anallu'r fam i addasu i droffoblast y ffetws ac fe'i cysylltir â pherygl cynyddol o abruptio placentae sydyn, cyneclampsia ac esgor baban llai ei faint na'r normal. Y mae rhyw gymaint o dystiolaeth ar gael sydd yn awgrymu y