Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

gall rhoi dognau bach o aspirin i wragedd â'r rhicynnau diastolig hyn leihau yn sylweddol y trawiant o gyneclampsia yn eu hachos hwy. Petai'r canlyniadau hyn yn cael eu cadarnhau mewn astudiaethau ar raddfa ehangach, gellid disgwyl y byddai hyn yn arwain at ddefnydd proffilactig o'r cyffur aspirin er mwyn rhwystro nifer o wragedd rhag datblygu cyneclampsia a'r perygl o farwolaeth a thostrwydd yn y cyfnod ar ôl esgor (neonatal). Er nad oes unrhyw Ie i brofion Doppler wrth archwilio rhydwelîau'r ymennydd, yr arennau a'r aorta yn y ffetws, fe ddadansoddir ffurf tonnau Doppler yn rhydweli'r bogail yn aml, a dangoswyd bod hyn o werth. Pan nad yw'r gwaed yn llifo ymlaen yn ystod cyfnod diastole, y mae hyn yn gysylltiedig â ffetws sydd yn tyfu'n fwy araf na'r normal, annormaleddau cromosomaidd, hypocsia ac asidosis. Y mae cael cyfres o fesuriadau o ffurf tonnau rhydweli'r bogail yn gwella ansawdd y penderfyniadau a wneir yn y maes obstetregol ac yn peri bod lleihad sylweddol yn digwydd yn y marwolaethau amenedigol (perinatal). Ymhlith y datblygiadau y gellir eu disgwyl yn y dyfodol, bydd y defnydd o dechneg uwchsain tridimensiwn. Ar hyn o bryd, y mae'r delweddau tridimensiwn a geir yn aneglur am fod yn rhaid i'r ffetws aros yn llonydd am ddwy neu dair eiliad yn ystod y prawf. Rhagwelir na fydd angen hyn o fewn rhai blynyddoedd, fel y bydd ansawdd y cyfarpar sydd ar gael yn gwella. DDOE, NIDDYCHWEL. Ar ddefnyddio'r corn er mwyn darganfod efeilliaid in utero. Nid oes modd gwadu [fod modd] defnyddio'r corn.er mantais bendant er mwyn darganfod beichiogrwydd, pan [fo] pob dull arall yn annigonol.Fe ddarganfûm i galon ffetws yn curo'n gyflym ac yn anghyson (160-70). [ond] bron o dan y linea semilunaris, clywais guriad gwannach a mwy araf ac anghyson (125-33). Rhagwelais..mai pen yr ail blentyn fyddai'n ymddangos yn gyntaf. Derbyniwyd hyn oll â chryn ddiddordeb gan y rhai a ddaeth i archwilio'r wraig. O ganlyniad i anegni ar ran y groth, bu'r cyfnod esgor yn llafurus, ac ar brydiau, yn drallodus. [Felly], rhoddwyd 45 gronyn o ryg ergot [iddi] dros gyfnod.Bu'n rhaid defnyddio'r gefeiliau gyda'r ail blentyn. Yr oedd y ddau yn farw. Un brych oedd yn bod. David C. Nagle, Dulyn, Lancet, 13 Tachwedd 1831, t. 232-4.