Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

DALUNEB: HER AR GYFER YR UNFED GANRIF AR HUGAIN Dylan Jones Arbenigedd sydd yn ymwneud ag astudio, diagnosis a thrin doluriau a namau ar y llygaid yw offthalmoleg. Ond yn aml, fe edrychir arnom fel rhai nad ydynt yn llawfeddygon iawn fel gwasanaeth Sinderela. Wedi'r cwbl, y gred gyffredinol yw nad ydyw cleifion yn marw wedi iddynt ddatblygu problemau gyda'u llygaid. (Fel y mae'n digwydd, nid yw hynny'n wir, er nad ydyw'n digwydd yn aml.) Ond y mae unrhyw offthalmolegydd yn treulio cyfran sylweddol o'i oriau gwaith yn trin problemau cymharol ddiniwed, ac yn aml y mae'r gwasanaeth yn cael ei lethu gan ofynion cleifion a meddygon teulu nad ydynt, fel y maent yn cyfaddef, wedi eu hyfforddi'n iawn i ymdopi â'r fath ddoluriau. Bwgan bywyd unrhyw offthalmolegydd yw anaUu'r rhai sy'n cyfeirio cleifion i'w glinigau i wahaniaethu rhwng yr hyn sydd, a'r hyn nad ydyw, yn bwysig. Eto, y mae'n rhaid byw gyda chleifion anfodlon sy'n cwyno fod yr optegydd wedi bod yn angharedig iddynt, pan fo hi'n amlwg mai'r unig reswm y maent am gael prawf llygad yw fod ofn dwfn, cyntefig a greddfol, sydd yn ofn y gellir ei ddeall, am mai ofn dallineb sydd y tu ôl i'r cwbl.Yn feunyddiol, y mae'n rhaid i'r offthalmolegydd fod yn barod i frwydro yn erbyn y gelyn hwn, ac y mae'n elyn grymus. Yn 1990, arwyddwyd 36,000 o dystysgrifau gan ymgynghorwyr trwy'r Deyrnas Unedig ar gyfer cofrestru cleifion yn rhannol neu yn llwyr ddall. Trwy'r Deyrnas Unedig, pedwar achos amlycaf dallineb yw glawcoma, macwlopathi yn yr oedrannus, y clefyd siwgr a philen ar y llygad. Glawcoma Grwp o gyflyrau yw'r rhain Ue y mae'r pwysau y tu mewn i'r llygaid wedi cynyddu yn ddigon i'r man lle y mae'n niweidio'r golwg. Glawcoma ongl-agored (glawcoma syml cronig) Hwn yw'r math mwyaf cyffredin, ac y mae'n digwydd i un ymhob mil o blith y boblogaeth, er bod yn agos i un ym mhob cant o blith y rhai sydd yn fwy na saith deg a phump oed yn dioddef ohono. Y mae'n cychwyn yn llechwraidd, ac yn aml y mae'n cael ei etifeddu, er bod hynny yn digwydd mewn dull amlffactoraidd. O ganlyniad, nid oes ond deg y cant o berthnasau cynradd yn dioddef ohono.