Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y GYMDEITHAS LAWFEDDYGAETH ORTHOPEDIG AR GYFER TRIN PLANT AG ABERTAWE, 15-16 IONAWR 1998 David Anthony Jones Yr oedd Abertawe yn falch o'r cyfle i groesawu ail gyfarfod y gymdeithas hon yng Nghymru oddi ar amser ei ffurfio hi bedair blynedd ar ddeg yn ôl. Datblygodd y gymdeithas o gyfarfodydd llawfeddygon esgyrn yn Llundain, a oedd yn awyddus i gyfnewid gwybodaeth am eu profiad o weithio gyda phlant. Ni ddatblygwyd llawfeddygaeth esgyrn plant fel isarbenigedd tan yn gymharol ddiweddar, a llwyddodd rhai canolfannau megis Llundain, Rhydychen, Caeredin a Chroesoswallt yn hyn o beth o flaen mannau eraill. Bu'n hwyr yn digwydd yn Abertawe, ond bellach, wedi peth oedi, y mae'r holl lawfeddygon esgyrn yn derbyn y cysyniad. Y mae'n cael ei dderbyn hefyd gan y Colegau Brenhinol, a ffurfiodd bwyllgorau arbenigol ymgynghorol, a phenderfynwyd bod chwe mis o weithio yn y maes yn angenrheidiol argyfer hyfforddiant pob llawfeddyg esgyrn. Dechreuwyd y cyfarfod â chinio (â bwydlen ddwyieithog) â bwydydd traddodiadol Cymreig. Yn ystod y pryd bwyd, canwyd y delyn gan Nia Jones, sydd yn fyfyrwraig yng Ngholeg Cerdd a Drama, Caerdydd, a chafwyd datganiad byr ar y tannau ganddi yn ddiweddarach. Cynhaliwyd y cyfarfod yng Nghapel Ysbyty Singleton, ac esgorodd hyn ar beth difyrrwch a roes gyfle i gynnig rhai sylwadau am fywyd Cymru. Dangoswyd llun lloeren o dde Cymru a'r Gororau a danlinellodd y gwahaniaeth rhwng tirlun Cymru a Lloegr, a arweiniodd at rai sylwadau ysgafn eraill yn ystod y croeso. Darllenwyd pymtheg papur, ac yn eu plith rhai a oedd yn ymwneud â gwaith a wnaed yn y maes yn Abertawe. Fel y gellid disgwyl, yr oedd rhan helaeth o gynnwys y darlithoedd o natur eithriadol dechnegol na fyddai o ddiddordeb arbennig i gynulleidfa fwy cyffredinol ei natur, ond yn yr erthygl hon, gobeithir cynnig peth o'r deunydd mwy diddorol a allai fod o werth cyffredinol.