Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

EFFETTHIAU SEICOLEGOL CANCR Rosina Davies 0 safbwynt seicoleg, y mae'n debygol taw y claf mwyaf adnabyddus i ddioddef o'r cancr oedd Sigmund Freud. Datblygodd gancr y geg pan oedd yn chwech a thrigain mlwydd oed a bu farw o'r aflwydd un mlynedd ar bymtheg yn ddiweddarach ar ôl nifer fawr o driniaethau llawfeddygol a radiotherapyddol. Ymddengys ei fod wedi gwadu presenoldeb y tyfiant am gyfnod gweddol faith gan ei fod wedi lledaenu yn helaeth y tu mewn i'r geg cyn iddo ei ddangos i'w feddyg, Felix Deutsch. Y mae'n bosibl dyfalu rhai o'r rhesymau am yr oedi hwn, ond y mae'n broblem gyffredin gyda chancr, gyda llawer o bobl yn gwadu presenoldeb tyfiant nes ei bod hi yn aml yn rhy hwyr i'w drin. Y mae yn ymddangos taw anwybodaeth sy'n gyfrifol mewn llawer o achosion, ond yn sicr y mae ofn yn chwarae rhan bwysig yn aml iawn hefyd. Y mae'r gair cancr yn peri ofn yng nghalonnau pobl yn fwy na sy'n digwydd ag unrhyw afiechyd arall. Fodd bynnag, pan aeth Freud i weld ei feddyg, yr oedd yn sicr yn ei feddwl beth oedd y diagnosis, ac fe ddywedodd hynny wrth Felix Deutsch.1 Tro'r meddyg i wadu oedd hi yn awr, ac fe ddywedodd Deutsch a'r llawfeddyg cyntaf i'w weld (Marcus Hajek) nad oedd y tyfiant yn fileinig. Y canlyniad fu i Freud dderbyn triniaeth hollol annigonol ar y dechrau, a daeth y tyfiant yn ôl yn fuan. Y tro hwnnw cafodd lawdriniaeth helaeth ond effeithiol iawn gan y llawfeddyg, Hans Pichler, a gadwodd lygad manwl a gofalus arno am weddill ei ddyddiau. Golygodd y driniaeth dynnu darn o'r mandibl a'r macsila, a llenwi'r twll yn y daflod â phrostheis (obturator). Fe barodd y prosthesis hwn lawer o loes a phoen i Freud dros y blynyddoedd, a bu'n ofynnol ei ail-greu droeon i geisio ei wneud yn fwy cyfforddus ac effeithiol. Parhaodd Freud i ddatblygu a chyhoeddi ei syniadau seicolegol, ond ni wnaeth gyfeirio o gwbl at effeithiau seicolegol cancr yn y papurau hyn. Y mae hyn yn rhyfeddol, yn enwedig gan fod llawer o'i waith (hyd yn oed y papur diwethaf iddo ei gyhoeddi yn 1939)2 yn trafod pwysigrwydd y geg yn natblygiad seicolegol person. Yn ffodus, yr oedd yn ysgrifennwr llythyron toreithiog ac yn amryw o'r rhain y mae'n sôn am y cancr. At ei gyfaill Georg Groddeclc, ysgrifennodd ar Dachwedd 25 1923: .Amdanaf fi, gallaf ddweud fy mod yn sâl. Credaf eich bod yn gwybod y manylion. 'Rwy'n gwybod, wrth gwrs, taw dyma