Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

LLYTHYR O GANADA GeraintW. Lewis Ffurfiwyd Y Gymdeithas Feddygol mewn cyfarfod a drefnwyd yn Ysbyty Cefn Coed, Abertawe, ar brynhawn Sadwrn, Mehefin 14, 1975. Derbyniodd saith o feddygon ac un myfyriwr meddygol o Ysgol Feddygol Genedlaethol Cymru y gwahoddiad a roddwyd iddynt i ddod atom er mwyn trafod y posibilrwydd o ffurfio cymdeithas o'r fath. Geraint Lewis o Gwm Dulais oedd y myfyriwr hwnnw. Fe ddarlithiodd ef yn y gynhadledd gyntaf a gynhaliwyd (am ei brofiadau yn ystod ei gyfnod dewisol yn Nigeria), gan raddio fe1 meddyg yn 1976. Y mae'n fraint cael cyhoeddi'r llythyr hwn o'i waith. Golygydd. Ni allaf gofio pwy ddywedodd fod "newid yn .gyson', ond y mae'r dywediad yn sicr yn wir am yr hyn sydd yn digwydd ym maes gofal iechyd yng Nghanada ar hyn o bryd. Fe gyrhaeddodd fy ngwraig a minnau yma yn 1977, fel ffoaduriaid oddi wrth Wasanaeth Iechyd Cenedlaethol nad oedd, o'n rhan ni, yn cynnig dim ond oriau hir o waith am gyflogau a oedd yn gwaethygu. Ar yr amser hwnnw, yr oedd y sefyllfa yma yn wahanol. Derbyniwyd bod gofal meddygol ar gyfer pawb yn enedigaeth-fraint; gwariwyd arian yn rhydd gan y llywodraeth. Yr oedd ysbytai a'r gwasanaethau a oedd ar gael a'r cymhlethdod a oedd yn bod yn rhai ohonynt yn cynyddu o ran eu maint. Rhoddwyd cynnydd blynyddol sylweddol mewn cyflog i nyrsys a meddygon a oedd yn gyfesur â graddfa chwyddiant. Talwyd meddygon fesul eitem o waith a oedd heb uchafbwynt, gwarantwyd tâl am bob gwasanaeth, ac yr oedd yn bod rhyw fath o gyfundrefn o archwiliad cyntefig i sicrhau fod y taliadau a roddwyd yn cyfateb i'r gwaith a wnaethpwyd! Nid oedd cleifion yn gorfod aros am driniaeth lawfeddygol ond yn anaml gellid cymharu'r sefyllfa â honno a ddigwyddai pan fyddai cefnogwyr pêl- droed yn holi pa amser y byddai'r gêm yn cychwyn, ac yn cael yr ateb, "pa bryd y gallwch ddod?' Oddi ar hynny, dros y ddau ddegawd canlynol, bu Ilawer yn gwylio'r hyn sydd wedi digwydd â phryder cynyddol wrth i ddyledion y llywodraeth bentyrru, a chafwyd gwrthdystio ychwanegol yn erbyn yr egwyddor o wario mwy nag a 'enillwyd'. Felly, yn y pen draw, gan eu bod yn ddilynwyr yn hytrach nag yn wir arweinwyr, daeth y