Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

GWRTHRYFELWR, REALYDD A THOENDOD AFLAN' HANNER CANMLWYDDIANT Y GWASANAETH IECHYD CENEDLAETHOL: RHODD ANEURIN BEVAN» John M. Lancaster 'Barn y dyfodol' yw fod gwrthrych fy sylwadau yn un o wyr gwirioneddol fawr yr ugeinfed ganrif. Ni ellir dweud ond am ychydig fod eu bywydau yn llythrennol wedi cyffwrdd ac effeithio ar ffordd miliynau o bobl o fyw. Dywedodd Wordsworth unwaith ei fod yn gallu gweld mewn plentyndod syml rhywbeth o'r sylfaen yr erys y mawredd hwn arno', ac yn sicr gellir dweud hynny am fywyd cynnar Aneurin Bevan. Yn yr un modd, dywedwyd gan Arthur O'Shaughnessy "y gall un dyn â breuddwyd fynd rhagddo fel y myn, ac ennill coron; ac y gall tri â chân newydd sathru teyrnas dan draed'.1 Disgrifiwyd Bevan fel vun o'r arweinwyr gwleidyddol mwyaf dawnus a chreadigol a addurnodd gwleidyddiaeth gwledydd Prydain yn ystod y ganrif hon [yr oedd] yn gyfartal o ran potensial, os nad ei orchestion â David Lloyd George a Winston Churchill.,2 Dywedwyd amdano hefyd ei fod yn fethiant vnid oherwydd cynllwynion ei gystadleuwyr corachaidd ond am fod ei ddoniau mawrion wedi bod yn gaeth i ddogma gwallus trwy ei oes, gan beri iddo gamddarllen yn llwyr yr hyn a gredai'n angerddol iddo ddeall, sef gogwydd hanes.' Ar un ystyr, y mae'n cynrychioli wyneb annerbyniol sosialaeth Brydeinig, a hwnnw yw'r rheswm paham y bu'r Blaid Geidwadol mewn grym am lawer iawn yn fwy na'r Blaid Lafur yn ystod y ganrif hon. Unwaith, soniwyd am Bevan fel un a feddai'r 'hyder diwyro, sydd ar yr un pryd yn ffyrnig ac yn ddigynnwrf, ei bod hi'n anochel y disodlid trefn gyntefig ac afresymol cyfalafiaeth gan drefn ragorach a rhesymol sosialaeth.'3 Yr oedd ei syniad ef am sosialaeth yn un a ddiraddiwyd gydag amser oherwydd er bod sosialaeth yn gysyniad pendefigaidd ei natur, y mae elfen o'r natur ddynol sydd yn hunanddinistriol, ac a gynhyrchodd ddiwylliant o ddibyniaeth sydd yn difa unrhyw fentrusrwydd ac unigolyddiaeth. Ar hanner canmlwyddiant ffurfio'r Gwasanaeth Iechyd Cenedlaethol rhaid cydnabod mai ei greadigaeth ef oedd hwnnw i raddau helaeth. A'r hi gwr a gafodd y freuddwyd hon oedd Aneurin Bevan, William Beveridge a Clement Atlee. Y mae huodledd Bevan yn y maes gwleidyddol yn gallu cynhyrfu'r gwaed, a chyn symud at hanes y