Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

CALEB HDLUER PARRY MD FRS (1755-1822) T. E. Parry Ganwyd Caleb Hillier Parry yn Cirencester ar yr unfed ar hugain o Hydref 1755, yr hynaf o ddeg o blant i'r Parchedig Joshua Parry a'i wraig Sarah. Hanai ei dad o deulu Penderi, teulu o dirfeddianwyr adnabyddus a gweddol gefnog ym mhlwyf Llanfallteg, ger Arberth, sir Benfro. Bu dau aelod o'r teulu yn uchel-siryfion ym Mhenfro, John Parry yn 1771, a'i fab William yn 1816. Ganwyd Joshua yn Llan-gan yn 1719 a bu farw ei dad, Thomas Parry, sef yr ieuengaf o un ar hugain o blant, yn 1720, pan oedd Joshua, ei unig blentyn, yn flwydd oed. Bu farw ei fam yn fuan wedyn a magwyd Joshua gan ei ewythr, David Parry, brawd ei dad. Wedi iddo gael peth addysg yn Hwlffordd, aeth Joshua i'r Congregational Fund Academy ym Moorfields, sefydliad a gefnogwyd gan yr anghydffurfwyr, i baratoi dynion ifainc ar gyfer y weinidogaeth. Yno yr oedd yn fachgen hynod gymdeithasgar. Ymdroai yng nghylch y Dr Johnson a chyfrannodd yn gynnar ac yn gyson i'r Gentleman's Magazine. Derbyniodd ei alwad gyntaf yn 1741, fel gweinidog gweithredol gyda'r anghydffurfwyr ym Midhurst, Sussex, ond ymhen blwyddyn, symudodd i Cirencester fel gweinidog, ac yno y bu hyd ei farw yn 1776 yn hanner cant a saith mlwydd oed. Yr oedd yn weinidog poblogaidd, yn fwy o lenor ac o ffigwr cymdeithasol hwyrach nag o ddiwinydd, a dewisodd ysgrifennu trwy gyfrwng y Saesneg. Yr oedd gwr o'r enw Caleb Hillier, masnachwr gwlân cefnog, yn aelod ac yn gefnogwr brwd i'r achos yn ei gapel yn Dollar Street. Yr oedd Caleb Hillier yn gyfeillgar iawn hefyd â'r Arglwydd Bathurst ac yn 1752, priododd Joshua â Sarah, un o ferched Caleb Hillier. Ymhen blwyddyn, bu farw Hillier ac etifeddodd Sarah ei gartref, Broadgates, yn Cirencester, ynghyd â rhai cannoedd o aceri o dir amaethyddol gwerthfawr yn sir Gaerloyw, ac yno y trigodd Joshua a Saraham weddill eu hoes. Bu iddynt ddeg o blant, tri mab a saith o ferched, ond ni fu ond dau o'r meibion ac un ferch byw. Caleb Hillier Parry oedd yr hynaf o'r tri. Ei ysgol gyntaf oedd Ysgol Ramadeg Cirencester, ac yr oedd yno ar yr un pryd ag Edward Jenner, a ddaeth yn adnabyddus am ei waith yn brechu yn erbyn y frech wen. Sefydlwyd cyfeillgarwch clòs rhyngddynt, a bu'r ddau yn gyfeillion mynwesol o hynny ymlaen. Yn 1770, pan oedd yn bymtheg oed, aeth i'r Warrington Academy, sefydliad arall a gynhaliwyd gan yr ymneilltuwyr. Bu yn Warrington am dair blynedd, a