Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

John Jones MD un enw, dau draddodiad R. Ewyn Hughes Diau fod nifer sylweddol o feddygon wedi dwyn yr enw John Jones. Ond y mae dau sy'n haeddu sylw arbennig gennym ni'r Cymry nid yn gymaint efallai oherwydd unrhyw gyfraniad neilltuol i hanes a datblygiad gwyddoniaeth neu feddygaeth ond am eu bod yn cynrychioli, yn eu gwahanol weithgareddau, gyfnodau arbennig yn hanes meddygaeth. Gellir cyfeirio atynt fel 'John Jones, Pen-tyrch' a 'John Jones, Caerfaddon' am mai â'r ddau le hynny yn bennaf y cysylltir hwy. Blodeuai John Jones, Caerfaddon, rhwng 1540 a 1585. Ni wyddys dim am ei fro enedigol nac, o ran hynny, am ei addysg. Bu fyw am o leiaf ugain mlynedd yn nhref hynafol Louth yn nwyrain Lloegr a dyna'r cyfan bron o wybodaeth sydd gennym am brif gerrig milltir ei fywyd. 'Braidd y mae unrhyw un o'r ffeithiau am ei fywyd wedi osgoi mynd i ebargofiant' meddai Goulding amdano yn ei lyfr Four Louth Men, gan ychwanegu bod Jones yn un o'r bobl hynny y gwyddys amdanynt trwy eu Ilyfrau yn unig.1 Yn ôl Wood, a'i disgrifiodd fel 'Cymro o ran genedigaeth, neu o leiaf o dras Gymreig', fe'i haddysgwyd yn Rhydychen yn ogystal ag yng Nghaer-grawnt, ond y mae Goulding yn amau hyn.2 Cyfeiriodd Guidott ato yn 1674 fel 'an honest Cambro-Briton' a fynychai Caerfaddon, ac am un o'i lyfrau 'nad yw'n haeddu dirmyg, er ei fod mewn gwisg wladaidd, blaen'.3 Priododd ag Anna Macrythe yn eglwys Louth; medicus phisicus yw'r disgrifiad ohono yng nghofrestr yr Eglwys ar yr achlysur hwnnw. Ganwyd i Jones a'i wraig saith o blant rhwng 1562 a 1581 ond bu farw tri ohonynt (gan gynnwys Morgan, yr un Ileiaf) yn eu babandod digwyddiad nid anghyffredin yn yr unfed ganrif ar bymtheg, hyd yn oed ymhlith teuluoedd meddygol. Yn ystod ei flynyddoedd cynnar, teithiai Jones i wahanol rannau o Ewrop, yn bennaf i hyrwyddo ei yrfa fel meddyg. Yn rhannol o ganlyniad i'r teithiau hyn, cyhoeddodd chwech o lyfrau meddygol.4 Lladin oedd iaith y sefydliad meddygol ar draws Ewrop yr adeg honno ond gweithredodd Jones yn groes i'r traddodiad hwn trwy gyhoeddi'r cyfan o'i lyfrau yn Saesneg. Ym marn rhai, y llyfr meddygol gwreiddiol cyntaf yn Saesneg oedd The breviarie of health gan Andrew Boorde a gyhoeddwyd yn nechrau'r 1540au felly yr oedd llyfrau Jones ymhlith y