Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

ADOLYGIADAU Bysedd Cochion a'r Wladfa Gyntaf. Emyr Wyn Jones. Gwasg Gee, £ 12, tt.284 ISBN 0 7074 0296 4. Yn ôl geiriadur Prifysgol Cymru, beirniadaeth ar waith llenyddol' yw ystyr y gair adolygiad, a'r cwestiwn a ddaeth i'm meddwl oedd pa gymhwyster sydd gan gyw o brentis i gloriannu gwáith meistr ? Adnabyddir y Dr Emyr Wyn Jones fel un o brif lenorion ein cenedl ac mae ei astudiaethau ar agweddau o hanes meddygaeth yn eu perthynas â Chymru wedi gosod sylfaen gadarn i ennyn diddordeb yn y pwnc. Fel y cynydda pwysigrwydd Hanes Meddygaeth yn y cwricwlwm meddygol, felly cynydda gwerth ei gyfraniad. Ond nid pynciau yn ymwneud â meddygaeth yn unig a drafodir gan yr awdur, eithr mae ehangder ei ddiddordebau yn ymledu i sawl maes. Gellir dosbarthu cynnwys y gyfrol bresennol yn fras i dair rhan. Yn y rhan gyntaf, ceir trafodaeth ar agweddau o hanes meddygaeth. Yr ysgrif gyntaf yw 'Y Bysedd Cochion Eu Rhin a'u Rhawd', ac mae'n delio â hanes y llysieuyn o'i ddefnydd esoterig yn y cyfnod cynnar i'w sefydliad fel cyffur safonol i drin y dropsi. Dichon fod camp William Withering yn mabwysiadu arfer gwerin a'i ymchwil i rinweddau bysedd cochion yn glasur, a cheir hanes y darganfyddiad yn ogystal ag eglurhad o ddull gweithrediad digitalis. Un o nodweddion y gyfrol hon drwyddi yw dawn yr awdur i allu symleiddio agweddau meddygol fel y bônt yn ddealladwy i leygwyr. Nodwedd arall yw dilyn ysgyfarnogod i sawl cyfeiriad ac yn yr erthygl hon, mae'n cynnwys cyfeiriadau diddorol at y mwyafrif o lyfrau a llawysgrifau llysieuol a meddygol Cymraeg cynnar. Mae 'Y Doctoriaid Richard a Robert Pughe Dau Fyfyriwr Sioraidd' yn stori dditectif deilwng o Hercule Poirot. Y mae'r awdur yn mynd â ni i sawl cyfeiriad ac i dir anadnabyddus wrth osod cefndir teuluaidd y ddau feddyg, y naill yng nghanol y ddeunawfed ganrif a'r llall ar ddechrau'r bedwaredd ganrif ar bymtheg. Hanai'r meddygon o dras eglwysig, gyda nifer o ficeriaid ymhlith eu perthnasau agosaf, digwyddiad digon cyffredin yn hanes meddygon y cyfnod. Awgryma'r awdur mai taid ac wyr oeddynt, ac wrth ddatrys eu hadnabyddiant mae hefyd yn cyffwrdd â'r drefn feddygol a oedd yn bodoli cyn canol y ganrif ddiwethaf. Dyfodiad penisilin i'n harfogaeth feddygol oedd digwyddiad mwyaf cyffrous y ganrif hon, ac mae'r Dr Emyr Wyn yn ailadrodd yn